Our Sustainability Commitment

At your SU, we’re passionate about protecting the environment and reversing climate change. That’s why we’ve adopted a new and improved p policy that aims to make us as sustainable an organisation as we can be within the not-too-distant future.

Swansea SU’s Commitment to Sustainability

At your SU, we’re passionate about protecting the environment and reversing climate change. That’s why we’ve adopted a new and improved p policy that aims to make us as sustainable an organisation as we can be within the not-too-distant future.

We’ve broken down this commitment to sustainability into seven key areas:

· Carbon Emissions

· Waste and Recycling

· Sustainable Procurement and Environmentally Friendly Sourcing

· Travel and Transport

· Reducing the Environmental Impact of our Events

· Sustainability Through Education

Alongside the work in these key areas, the policy aims to help us achieve two main goals:

Goal 1: Swansea University Students’ Union will aim to be carbon neutral by 2035.

Goal 2: Swansea University Students’ Union will aim to be a Sustainability and Climate Change Leader regionally, nationally, and internationally.

To find out more, and read the nitty gritty details of how we’re going to accomplish this, you can read the policy here.

Sustainability Contacts

If you’re passionate about saving the planet and want a chat with us about how we can do our part, and how you can take part, get in touch with any of these friendly folks:

Geri Smits – Lead Student Voice Coordinator (Societies and Sustainability)

Georgia-Rose Gleeson – Societies & Services Officer

Ciera Atkins – Environment Officer

UN Sustainable Development Goals

Our policy was influenced by the Sustainable Development Goals set out by the United Nations. They address the global challenges we face, including those related to poverty, inequality, climate change, environmental degradation, peace, and justice. The 17 Goals are all interconnected, and in order to leave no one behind, it is important that we achieve them by 2030.

Our Current Sustainability Activities

We currently operate Root and Root Zero on Singleton Campus, our two shops which offer zero-waste products, vegan and vegetarian food, and ethical supplies. Our venues are always trying out new things, so make sure to follow Root and Root Zero on Insta to hear about new products.

Every year, when restrictions allow, we run our Donate Don’t Ditch campaign for anyone in our community to give away their pots, pans, cooking utensils, and homeware to us for

another student to be able to use next year. This free service stops loads of useful equipment being thrown out. We are hoping to expand this into the community through drop-off points, with more developments to come!

We also run a number of campaigns throughout the academic year to raise awareness of environmental issues such as World Refill Day, University Climate Action Week, Fairtrade Fortnight, and Earth Hour.

These are only a start though; we’ve got plenty planned to make us a more sustainable organisation.

Ymrwymiad UM Abertawe i Gynaliadwyedd

Yn Undeb y Myfyrwyr, rydym yn frwdfrydig iawn am ddiogelu'r amgylchedd a gwrthdroi’r newid yn yr hinsawdd. Dyna pam rydym wedi mabwysiadu polisi newydd a gwell sy'n ceisio ein gwneud yn sefydliad mor gynaliadwy ag y gallwn fod yn y dyfodol agos.

Rydym wedi rhannu'r ymrwymiad hwn i gynaliadwyedd yn saith maes allweddol:

• Allyriadau Carbon

• Gwastraff ac Ailgylchu

• Caffael Cynaliadwy a Chyrchu Ecogyfeillgar

• Teithio a Thrafnidiaeth

• Lleihau Effaith ein Digwyddiadau ar yr Amgylchedd

• Cynaliadwyedd Trwy Addysg

Ochr yn ochr â'r gwaith yn y meysydd allweddol hyn, bwriad y polisi yw ein helpu i gyflawni dau brif nod:

Nod 1: Bydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn anelu at fod yn garbon niwtral erbyn 2035.

Nod 2: Bydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn anelu at fod yn Arweinydd Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Am ragor o wybodaeth, ac i ddarllen y manylion bras am sut rydyn ni'n mynd i gyflawni hyn, gallwch chi ddarllen y polisi yma.

Cysylltiadau Cynaliadwyedd

Os ydych chi'n frwdfrydig am achub y blaned ac eisiau sgwrs gyda ni ynglyn â sut y gallwn wneud ein rhan, a sut y gallwch chi gymryd rhan, cysylltwch ag unrhyw un o'r bobl gyfeillgar hyn:

Geri Smits – Prif Gydlynydd Llais y Myfyrwyr (Cymdeithasau a Chynaliadwyedd)

Georgia-Rose Gleeson – Swyddog Cymdeithasau a Gwasanaethau

Ciera Atkins – Swyddog yr Amgylchedd

Nodau Datblygu Cynaliadwyedd y Cenhedloedd Unedig

Dylanwadwyd ar ein polisi gan y Nodau Datblygu Cynaliadwyedd a nodwyd gan y Cenhedloedd Unedig. Maent yn mynd i'r afael â'r heriau byd-eang sy'n ein hwynebu, gan gynnwys y rheini sy'n gysylltiedig â thlodi, anghydraddoldeb, newid yn yr hinsawdd, dirywiad amgylcheddol, heddwch a chyfiawnder. Mae'r 17 nod i gyd yn rhyng-gysylltiedig, ac er mwyn gadael neb ar ôl, mae'n bwysig ein bod ni'n eu cyflawni erbyn 2030.

Ein Gweithgareddau Cynaliadwyedd Cyfredol

Ar hyn o bryd, rydym yn gweithredu Root a Root Zero ar Gampws Singleton, ein dwy siop sy'n cynnig cynhyrchion diwastraff, bwyd fegan a llysieuol, a chyflenwadau moesegol. Mae ein siopau wastad yn rhoi cynnig ar bethau newydd, felly gwnewch yn siwr eich bod yn dilyn Root a Root Zero ar Instagram i glywed am gynhyrchion newydd.

Bob blwyddyn, pan fydd cyfyngiadau yn caniatáu, rydym yn cynnal ein hymgyrch Donate Don’t Ditch i unrhyw un yn ein cymuned roi eu potiau, sosbenni, offer coginio, a nwyddau cartref i ni er mwyn i fyfyriwr arall allu eu defnyddio'r flwyddyn nesaf. Mae'r gwasanaeth rhad ac am ddim hwn yn atal llwyth o offer defnyddiol rhag cael eu taflu allan. Rydym yn gobeithio ehangu hyn i'r gymuned trwy fannau gollwng, gyda mwy o syniadau i ddod!

Rydym hefyd yn cynnal nifer o ymgyrchoedd trwy gydol y flwyddyn academaidd i godi ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol fel Diwrnod Ail-lenwi'r Byd, Wythnos Gweithredu Hinsawdd y Brifysgol, Pythefnos Masnach Deg, ac Awr Ddaear.

Dim ond y dechrau yw hwn; mae gennym lwyth o bethau wedi'u trefnu i'n gwneud ni'n sefydliad mwy cynaliadwy.

 
Swansea University Students' Union