Candidate for the position of President

Image for Katie Phillips

Katie Phillips

#Katie4President  

As your current Welsh Affairs Officer and SU Trustee, I’ve been involved in a range of diverse opportunities which have positively impacted students and given me the opportunity to gain relevant experience, skills and qualities of a future President. 

I’m pleased to say that I’m on track to complete all my manifesto points. During the pandemic I’ve been adaptive and innovative creating numerous virtual activities and opportunities. 

I have shown my dedication and passion for supporting students by working on equality projects such as Disability History Month, staff allyship workshops and introducing pronouns to staff emails. 

I've prioritised establishing strong relationships with key stakeholders in the university, as working with the university is key in ensuring sustainable and positive change for all students. I understand the importance of good governance and am committed to supporting my colleagues and students in delivering impactful campaigns that will improve your university experience. 

 

I will: 

Lobby the university to ensure students have the right to at least 1 extenuating circumstance with no evidence per term 

  • I will argue that students should be trusted as adults to self-certify for a week, as you would in the workplace 

 

Continue current allyship work by introducing Allyship Mondays 

  • Allyship workshops for staff, student staff, PTO’s, reps, & student leaders discussing race, accessibility, gender, sexuality and more 

  • Share educational resources on the SU website and social media 

 

Lobby the university to reinstate Refreshers Week to improve students’ and staffs’ mental wellbeing 

  • Provide students with employability opportunities as well as wellbeing activities to refresh before the new term starts 

 

Launch new revenue and marketing streams for the union to help boost income post-pandemic and in a digital world 

  • Launch an SU podcast to reach out to students and prospective students, discussing topical issues such as elections, mental health, employability, finance and FTO and PTO catch-ups 

  • Expand SU platforms to YouTube, Tik Tok, Discord and others that are relevant to improve communication streams with students 

 

Launch a sex worker awareness campaign, workshops and training to raise awareness on the discrimination faced by student sex workers 

  • Support student sex workers by working with NUS Wales to lobby the Government for the decriminalisation of sex work 

  • Create a policy showing SU commitment to supporting student sex workers, and the decriminalisation of sex work  

  • Create an anonymous support group network for student sex workers, for support, understanding, improved safety and the reduction of feelings of loneliness 

 

Improve the sustainability of the SU and University 

  • Launch an SU Sustainability Rewards Scheme   

  • Launch an annual SU Climate Change Summit to gather views of students on how we should be driving the sustainability agenda at the university and within our SU 

  • Create an SU Sustainability Committee to create sustainable change within Swansea University through events and campaigning 

 

Increase employability opportunities for student staff 

  • Form stronger relationships with student staff by creating a network to engage with campaigns, activities and employability opportunities 

  • Improve training opportunities on accessibility, sustainability, unconscious bias, allyship and more 

 

#KatieAmLywydd 

 

You can vote online for Officers and Referendums at www.swansea-union.co.uk/elections/ anytime between 11am on Monday 8th March – 1pm on Thursday 11th March 2021 

 

#Katie4President  

Fel eich Swyddog Materion Cymraeg ac Ymddiriedolwr UM cyfredol, rydw i wedi bod yn rhan o ystod o gyfleoedd amrywiol sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar fyfyrwyr ac wedi rhoi cyfle i mi ennill profiad, sgiliau a rhinweddau perthnasol i fod yn Llywydd. 

Rwy'n falch o ddweud fy mod ar y trywydd iawn i gwblhau holl bwyntiau fy maniffesto. Yn ystod y pandemig rydw i wedi bod yn ymaddasol ac yn arloesol gan greu nifer o weithgareddau a chyfleoedd rhithwir.  

Rydw i wedi dangos fy ymroddiad a brwdfrydedd dros gefnogi myfyrwyr trwy weithio ar brosiectau cydraddoldeb fel Mis Hanes Anabledd, gweithdai cynghreirio staff a chyflwyno rhagenwau i e-byst staff. 

Rydw i wedi blaenoriaethu sefydlu perthnasoedd cryf â rhanddeiliaid allweddol yn y Brifysgol, gan fod gweithio gyda'r brifysgol yn allweddol wrth sicrhau newid cynaliadwy a chadarnhaol i bob myfyriwr. Rwy'n deall pwysigrwydd llywodraethu da ac rydw i wedi ymrwymo i gefnogi fy nghydweithwyr a myfyrwyr i gynnal ymgyrchoedd effeithiol a fydd yn gwella'u profiad yn y Brifysgol.  

Byddaf yn: 

Lobïo’r Brifysgol i sicrhau bod gan fyfyrwyr yr hawl i o leiaf un amgylchiad esgusodol heb unrhyw dystiolaeth bob tymor  

  • Byddaf yn dadlau y dylid ymddiried yn myfyrwyr fel oedolion i hunan-ardystio am wythnos, fel y byddech chi yn y gweithle 

Parhau gyda’r gwaith cynghreirio cyfredol trwy gyflwyno Allyship Mondays 

  • Gweithdai cynghreiriaid ar gyfer staff, swyddogion rhan-amser, cynrychiolwyr ac arweinwyr myfyrwyr i drafod hil, hygyrchedd, rhyw, rhywioldeb a mwy 

  • Rhannu adnoddau addysgol ar wefan a chyfryngau cymdeithasol UM 

 

Lobïo’r Brifysgol i adfer Wythnos Refreshers i wella lles meddyliol myfyrwyr a staff 

  • Darparu cyfleoedd cyflogadwyedd i fyfyrwyr yn ogystal â gweithgareddau lles I'w helpu adnewyddu cyn i'r tymor newydd ddechrau  

 

Lansio ffrydiau refeniw a marchnata newydd ar gyfer yr Undeb i helpu i hybu ei hincwm ar ôl y pandemig ac mewn byd digidol  

  • Lansio podlediad UM i gyfathrebu á myfyrwyr a darpar fyfyrwyr, gan drafod materion amserol fel etholiadau, iechyd meddwl, cyflogadwyedd, cyllid a thrafodaethau gyda’r swyddogion 

  • Ehangu platfformau UM i YouTube, Tik Tok, Discord ac eraill sy'n berthnasol i wella ffrydiau cyfathrebu â myfyrwyr 

Lansio ymgyrch ymwybyddiaeth, gweithdai a hyfforddiant ar weithwyr rhyw i godi ymwybyddiaeth o'r gwahaniaethu y mae myfyrwyr sy’n weithwyr rhyw yn ei wynebu  

  • Cefnogi myfyrwyr sy’n weithwyr rhyw trwy weithio gydag UCM Cymru i lobïo'r Llywodraeth dros ddadgriminaleiddio gwaith rhyw 

  • Creu polisi sy'n dangos ymrwymiad UM i gefnogi myfyrwyr sy’n weithwyr rhyw, a dadgriminaleiddio gwaith rhyw 

  • Creu rhwydwaith grwp cymorth dienw ar gyfer myfyrwyr sy’n weithwyr rhyw ar gyfer cefnogaeth, dealltwriaeth, gwell diogelwch ac i leihau’r teimladau o unigrwydd  

 

Gwella cynaliadwyedd UM a’r Brifysgol 

  • Lansio Cynllun Gwobrwyon Cynaliadwyedd UM 

  • Lansio Uwchgynhadledd Newid Hinsawdd UM flynyddol i gasglu barnau myfyrwyr ar sut y dylem fod yn gyrru'r agenda cynaliadwyedd yn y Brifysgol ac o fewn UM 

  • Creu Pwyllgor Cynaliadwyedd UM i greu newid cynaliadwy ym Mhrifysgol Abertawe trwy ddigwyddiadau ac ymgyrchu 

 

Cynyddu cyfleoedd cyflogadwyedd i fyfyrwyr sy’n staff UM 

  • Ffurfio perthnasoedd cryfach â staff sy’n fyfyrwyr trwy greu rhwydwaith i ymgysylltu ag ymgyrchoedd, gweithgareddau a chyfleoedd cyflogadwyedd 

  • Gwella cyfleoedd hyfforddi ar hygyrchedd, cynaliadwyedd, gogwydd anymwybodol, cynghreiriad a mwy  

 

#KatieAmLywydd 

 

Gallwch bleidleisio dros Swyddogion a Refferenda ar www.swansea-union.co.uk/elections/ unrhyw bryd rhwng 11am ar Ddydd Llun 8fed Mawrth - 1pm ar Ddydd Iau 11eg Mawrth 2021.