My name is Chloe Morgan, I am a 2nd year Public Health PhD student. I have been a wheelchair user for all of my life, I have seen first-hand how hard being disabled can be and being a disabled student is even harder. My experience has made me passionate about disability rights and am determined to fight for inclusivity.
I did my undergraduate and master’s degrees in Swansea University, during that time I was a student ambassador, a student representative and was then elected as the Students with Disabilities Officer for 2017/18. As the Students with Disabilities Officer I organised the Disability Awareness Week campaign, had 2 motions passed in the Students Union and wrote the 2018 Accessibility Report.
I also took part in the 2018 Scope for Change programme which helps disabled people to create campaigns, I received training to allow me to develop skills needed to design and run effective campaigns.
I am now a Student representative for PGR students in the College of Human and Health Sciences, I helped with the Disability History Month campaign in 2020, hosted the My Disability Matters event for the campaign and organised an online student conference for postgraduate students in CHHS.
If elected to the role of Students with Disabilities Officer I will work towards the following goals.
Teaching
-
Advocate and push for the continuation of lecture recording once face-to-face teaching resumes
-
Push union to hold the university accountable when disabled students do not get the resources they need i.e. Lecture handouts before lectures
Accessibility
-
Produce an updated version of the accessibility report
-
Hold regular forums for students with disabilities, exclusively on zoom until face-to-face meetings are safe and then using a mixture of online and face-to-face meetings
-
Push the union to continue to fight for more accessible parking spaces
-
Push the union to fight for more accessible toilets and changing places across the university and make these easier for disabled students to find
Campaigns
-
Work with the union to arrange an even bigger disability history month, as well as disability awareness events throughout the year
-
Organise an invisible disabilities awareness campaign to help tackle stereotypes, reduce stigma and fight ableism
-
Organise a campaign to raise the awareness of neurodiversity
Funding
If elected to this role, you can count on me to fight for disabled students in Swansea University. #CountOnChloe
You can vote online for Officers and Referendums at www.swansea-union.co.uk/elections/ anytime between 11am on Monday 8th March – 1pm on Thursday 11th March 2021
Fy enw i yw Chloe Morgan, rwy'n fyfyriwr PhD Iechyd Cyhoeddus yn fy ail flwyddyn. Rydw i wedi defnyddio cadair olwyn fy holl fywyd, felly rydw i wedi gweld o lygad y ffynnon pa mor anodd y gall bod yn anabl fod ac mae bod yn fyfyriwr anabl hyd yn oed yn anoddach. Mae fy mhrofiad wedi fy ngwneud i’n frwdfrydig am hawliau pobl ag anableddau ac yn benderfynol o frwydro dros gynhwysiant.
Astudiais fy ngraddau israddedig a meistr ym Mhrifysgol Abertawe. Yn ystod yr amser hwnnw, roeddwn i’n llysgennad myfyrwyr, yn gynrychiolydd myfyrwyr ac chefais fy ethol yn Swyddog Myfyrwyr ag Anableddau ar gyfer 2017/18. Fel y Swyddog Myfyrwyr ag Anableddau, trefnais ymgyrch Wythnos Ymwybyddiaeth Anabledd, pasiais dau gynnig yn Undeb y Myfyrwyr ac ysgrifennais Adroddiad Hygyrchedd 2018.
Hefyd, cymerais i ran yn rhaglen Scope for Change 2018 sy'n helpu pobl anabl i greu ymgyrchoedd, cefais hyfforddiant i fy ngalluogi i ddatblygu sgiliau sydd eu hangen i ddylunio a chynnal ymgyrchoedd effeithiol.
Erbyn hyn, rydw i'n gynrychiolydd myfyrwyr ar gyfer myfyrwyr PGR yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd, helpais i gyda'r ymgyrch Mis Hanes Anabledd yn 2020, cynhaliais y digwyddiad My Disability Matters ar gyfer yr ymgyrch a threfnais gynhadledd myfyrwyr ar-lein ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig yn CHHS.
Os caf fy ethol i rôl y Swyddog Myfyrwyr ag Anableddau byddaf yn gweithio tuag at y nodau canlynol.
Dysgu
-
Eirioli a gwthio am barhad recordio darlithoedd unwaith i ddysgu wyneb yn wyneb ailddechrau
-
Gwthio’r Undeb i ddal y Brifysgol yn atebol pan nad yw myfyrwyr anabl yn cael yr adnoddau sydd eu hangen arnynt, e.e. taflenni darlithoedd cyn darlithoedd
Hygyrchedd
-
Gweithio gyda'r Brifysgol a'r Undeb i fynd i'r afael â'r materion hygyrchedd corfforol ar Singleton a'r Bae
-
Cynhyrchu fersiwn diweddarach o'r adroddiad hygyrchedd
-
Cynnal fforymau rheolaidd ar gyfer myfyrwyr ag anableddau, ar Zoom tan fod cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn ddiogel ac yna gan ddefnyddio cymysgedd o gyfarfodydd ar-lein ac wyneb yn wyneb
-
Gwthio’r Undeb i barhau i frwydro dros fannau parcio mwy hygyrch
-
Gwthio’r Undeb i frwydro dros doiledau mwy hygyrch ac ystafelloedd newid ar draws y Brifysgol a gwneud y rhain yn haws i fyfyrwyr anabl ddod o hyd iddynt
Ymgyrchoedd
-
Gweithio gyda'r Undeb i drefnu Mis Hanes Anabledd hyd yn oed yn fwy, yn ogystal â digwyddiadau ymwybyddiaeth anabledd trwy gydol y flwyddyn
-
Trefnu ymgyrch ymwybyddiaeth anableddau anweledig i helpu i fynd i'r afael â stereoteipiau, lleihau stigma a brwydro yn erbyn ablaeth
-
Trefnu ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o niwro-amrywiaeth
Cyllid
-
Annog myfyrwyr i wneud cais am DSA trwy ei hyrwyddo a llunio rhestr gynhwysfawr o amodau cymwys
-
Hyrwyddo opsiynau cyllido a gwasanaethau cymorth eraill sydd ar gael i fyfyrwyr anabl h.y. Cyfraniad tuag at gostau llety
Os caf fy ethol i'r rôl hon, gallwch ddibynnu arnaf i i frwydro dros fyfyrwyr anabl ym Mhrifysgol Abertawe. #CountOnChloe
Gallwch bleidleisio dros Swyddogion a Refferenda ar www.swansea-union.co.uk/elections/ unrhyw bryd rhwng 11am ar Ddydd Llun 8fed Mawrth - 1pm ar Ddydd Iau 11eg Mawrth 2021.