Black Lives Matter Statement

Dear Students,

We are deeply saddened by the ruthless murder of George Floyd, amongst many unjust killings of black people in the United States, displaying the utter disregard of black lives. The UK is not innocent!

In 2018/19, 76% of hate crimes in England & Wales were racially motivated hate crimes (Home Office,2019). Racism has eaten deep into our Higher Education systems and we are calling for a change! Nationally, students from Black, Asian and minority ethnic backgrounds (BAME) face an attainment gap of 13% (UUK, 2019). This means that BAME students are 13% less likely to achieve a 1st or 2:1 upon graduation, compared to white students. As we can see, what happened in the United States concerns all of us, and we are standing in solidarity with all the black families across the world, and with our black students in Swansea.

As a Student Union, we do not condone any form of racism or hate crime, and our Advice and Support Centre is a 3rd party Hate Crime Reporting Centre. However, there is always more to do. 

Swansea University Students’ Union supports #BlackLivesMatter.

 

We pledge to:

  • Continue to speak up against racial injustice

  • Educate ourselves and our members on race and racial issues

  • Ensure that underrepresented groups always have their voices heard

  • Work with the University on decolonising the curriculum and closing the BME attainment gap

  • Engage in projects that support and improve the welfare of our BME community

  • Continue to be an ally of you all, now and always

 

We must all take all responsibility and get involved by; 

 

Support 

We hope you are all staying safe in these difficult times. 

Your officer team,

Grace Hannaford (President)

Theresa Ogbekhiulu (Education)

Ana Guri (Welfare)

Ffion Davies (Sport)

Ines Teixeira-Dias (Societies and Services)

Megan Colbourne (Welsh Affairs) 

 

Annwyl Fyfyrwyr,  

Rydym yn drist iawn i glywed am lofruddiaeth ddidostur George Floyd, ymhlith nifer o laddiadau anghyfiawn o bobl dduon yn yr Unol Daleithiau, gan arddangos diystyrwch llwyr bywydau pobl dduon. Nid yw'r DU yn ddieuog! 

Yn 2018/19, roedd 76% o droseddau casineb yng Nghymru a Lloegr yn droseddau casineb a ysgogwyd gan hil (Y Swyddfa Gartref, 2019). Mae hiliaeth yn ddwfn yn ein systemau Addysg Uwch ac rydym yn galw am newid! Yn genedlaethol, mae myfyrwyr o gefndiroedd Duon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) yn wynebu bwlch cyrhaeddiad o 13% (UUK, 2019). Mae hyn yn golygu bod myfyrwyr BAME 13% yn llai tebygol o gyflawni gradd dosbarth 1af neu 2:1 wrth raddio, o gymharu â myfyrwyr gwyn. Fel y gwelwn ni, mae'r hyn a ddigwyddodd yn yr Unol Daleithiau yn ymwneud â phob un ohonom, ac rydym yn sefyll mewn undod gyda'r holl deuluoedd duon ledled y byd, a gyda'n myfyrwyr duon yn Abertawe. 

Fel Undeb Myfyrwyr, nid ydym yn cydoddef unrhyw fath o hiliaeth neu droseddau casineb, ac mae ein Canolfan Cyngor a Chefnogaeth yn Ganolfan Adrodd Troseddau Casineb 3ydd parti. Fodd bynnag, mae mwy i'w wneud bob amser. 

Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn cefnogi #BlackLivesMatter.  

 

Rydym yn addo i:  

  • barhau i siarad allan yn erbyn anghyfiawnder hiliol 
  • addysgu ein hunain a’n haelodau ar hil a materion hiliol 
  • sicrhau bod lleisiau grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu clywed 
  • weithio gyda’r Brifysgol ar ddadwaddoli’r cwricwlwm a chau’r bwlch cyrhaeddiad BME 
  • ymgysylltu â phrosiectau sy’n cefnogi a gwella lles ein cymuned BME 
  • barhau i fod yn gynghreiriad i chi gyd, nawr a phob amser 

 

Rhaid i ni gyd gymryd cyfrifoldeb a chymryd rhan trwy: 

 

Cefnogaeth 

 

Gobeithiwn eich bod chi gyd yn cadw’n ddiogel yn ystod y cyfnod anodd hwn. 

  

Eich Tîm o Swyddogion,  

 

Grace Hannaford (Llywydd)  

Theresa Ogbekhiulu (Addysg)  

Ana Guri (Lles)   

Ffion Davies (Chwaraeon)  

Ines Teixeira-Dias (Cymdeithasau a Gwasanaethau)  

Megan Colbourne (Materion Cymraeg)  

 
Swansea University Students' Union