Go Green Week

11 ways we’re making Swansea Uni greener

It's Go Green Week, so we thought it would be a great time to tell you what we do to make the place a bit more eco-friendly! 

1. We’ve ditched plastic straws

Millions of single-use plastic straws end up in landfill and the sea after being used for about 20 minutes. So, as of last month, you won’t find any plastic straws in our venues!

 

2. We’re working on getting water fountains

Your Sports Officer, Gwyn Aled, is working with the Uni to get some water fountains put in place across the campuses to stop you from having to buy the bottled stuff! Saving pounds and planets

 

3. Litter pick ups

We organise regular street and beach cleans to keep Brynmill and Swansea Bay litter-free. It makes the place look a lot better, and saves sea life from being injured or killed because of the rubbish.

 

4. Waste-free Wednesdays

Disovery, the student volunteering service, provide two-course meals on Wednesdays for only £2. They take donations from us and other local shops, which would otherwise have gone to waste, and encourage students to eat a cheap, home-cooked meal! More info about Discovery here http://discoverysvs.org/

 

5. Vegware

As you may have noticed, all of Root’s to-go food comes in compostable material, meaning it won’t end up in landfill. Remember that next time you’re deciding where to get your porridge, soup, salad or hot meal!

 

6. JC’s & 52° reusable cups

Less than 1% of around 2.5 billion coffee cups that are used in the UK every year actually get recycled. We know you need a load of caffeine to get you through that course work, so we’re looking into introducing reusable cups to JC’s and 52°, and you’ll even get a cheeky discount if you use one instead of getting a new single-use coffee cup. Win win!

 

7. Waterfront

We recently reduced the size of the Waterfront from A3 to A4, and we now release monthly issues instead of fortnightly. This has saved us 120519.5 sheets of A4 paper a month, which equates to 91 trees a year!

 

8. Paperless policy

 We have a paperless policy in our offices, meaning that we won’t print anything unless we have to. You can make this change too, it’s really easy!

 

9. The Big Switch Off

In collaboration with Residential Services, we run a competition to encourage on-campus students to use less electricity in their halls, and give prizes to the winners.

 

10. Green Impact Accreditation

NUS’s scheme to encourage Students’ Unions to be greener awarded us an award this year for our efforts to be environmentally-friendly!

 

11. We compost nappies from the Nursery

That means that they don’t end up in landfill, and ultimately pollute the planet…

 

If you have any ideas to help us be a greener organisation, just let us know!

11 ffordd rydyn ni'n 'neud Abertawe'n fwy gwyrdd

Mae'n Wythnos Werdd, felly mae'n amser gwych i rannu'r holl fyrdd rydyn ni'n helpu'r amgylchedd!

1. Rydyn ni ‘di cael gwared ar wellt plastig

Mae miliynau o wellt plastig yn ffeindio’u ffordd i dirlenwi a’r môr ar ôl cael eu defnyddio am 20 munud yn unig. Felly, ers mis diwethaf, does dim gwellt plastig yn ein hundeb!

 

2. Rydyn ni’n gweithio ar gael ffynhonnau dwr

Mae’r Swyddog Chwaraeon, Gwyn Aled, yn gweithio gyda’r Brifysgol i roi ffynhonnau dwr o gwmpas y campysau er mwyn annog myfyrwyr i beidio â phrynu poteli o’r peth! Bydd hyn yn arbed punnoedd a’r blaned

 

3. Casgliadau Sbwriel

Rydyn ni’n trefnu sesiynau casglu sbwriel o’r strydoedd a thraethodau i gadw’r ardal yn lan. Mae’r lle yn edrych yn well, ac yn atal anifeiliaid y môr rhag cael eu briffo a’u lladd gan y sbwriel.

 

4. Waste-free Wednesdays

Mae Disovery, gwasanaeth gwirfoddoli myfyrwyr, yn darparu prydiau dau gwrs ar Ddydd Mercher am £2 yn unig. Rydyn ni, a siopau lleol eraill yn rhoi bwyd, a fyddai’n mynd i’r bin os nad y cynllun hwn, ac mae Discovery yn annog myfyrwyr i fwyta pryd cartref rhad! Mae rhagor o wybodaeth am Discovery yma: http://discoverysvs.org/

 

5. Vegware

Efallai dy fod ti wedi sylweddoli, mae bwyd cartref Root yn dod mewn deunydd compostadwy, felly fydd e ddim yn mynd i’r tirlenwi. Cofia hynny’r tro nesaf i ti benderfynu lle i brynu uwd, swp, salad neu bryd o fwyd twym!

 

6. Cwpanau coffi JC’s a 52°

Mae llai na 1% o’r 2.5 biliwn cwpan coffi sy’n cael eu defnyddio yn y DU bob blwyddyn yn cael eu hailgylchu.  Rydyn ni’n ymwybodol bod angen lot o gaffein i wneud yr holl waith cwrs ‘na, felly rydyn ni’n ceisio cyflwyno cwpanau coffi y gellir eu hailddefnyddio. Bydd hyd yn oed disgownt i ti os wyt ti’n defnyddio un yn hytrach na chwpan newydd. Mae pawb yn ennill!

 

7. Waterfront

Yn ddiweddar, newidion ni faint y Waterfront o A3 i A4, ac mae’r papur yn cael ei gyhoeddi’n fisol yn hytrach na phob pythefnos. Mae hyn wedi arbed 120519.5 o bapur A4 y mis, sef 91 coeden y flwyddyn!

 

8. Polisi di-bapur

Mae gennym ni bolisi di-bapur yn ein swyddfeydd, felly dydyn ni ddim yn argraffu unrhyw beth nad sydd ei angen. Gallet ti wneud y newid hwn hefyd, mae’n hawdd!

 

9. The Big Switch Off

Mewn cydweithrediad â Gwasanaethau Preswyl, rydyn ni’n cynnal cystadleuaeth i annog myfyrwyr sy’n byw ar y campws i ddefnyddio llai o drydan yn eu llety, ac yn rhoi gwobrwyon i’r enillwyr.

 

10. Achrediad Effaith Werdd

Rhoddodd gynllun NUS i annog Undebau Myfyrwyr i fod yn fwy gwyrdd wobr i ni eleni am ein hymdrechion i fod yn gyfeillgar i’r amgylchedd!

 

11. Rydyn ni'n compostio cewynnau'r Feithrin

Gan ein bod ni’n gwneud hyn, dydyn nhw ddim mynd at dirlenwi a lladd y blaned…

 

Os oes gen ti unrhyw syniadau i’n helpu i fod yn fwy gwyrdd, gad i ni wybod!

 
Swansea University Students' Union