Motions

Cynigion

Motions

Here in the Students’ Union, you come first. What’s best for students is at the heart of everything we do. That’s why we want you to have your say!

It’s easier than ever to make a change in the Union. Whether it’s big or small, let’s change it together. Here’s how:

Four times a year, we hold a Student Forum, where we tell students what we’re up to, ask for their feedback and ideas, and let you question us.

Motions can also be passed at student forums. If a student has an idea, they just need to write 400 words about why it’s a good idea, pop along to a student forum and tell other students why it’s a good idea. There will then be a quick vote, and if the majority of people agree, it’ll go ahead. Easy.

Here are some examples of motions that have passed this year:

Ban plastic straws

Societies and Services Officer, Chris Freestone, decided he no longer wanted the Students’ Union to use plastic straws in our venues because of the damaging effects on the planet. It passed at a student forum, and immediately we stopped providing plastic straws!

Commuter Students Officer

A student who commutes to Uni every day felt underrepresented and thought that the Students’ Union needed a Part-time Officer to help commuter students feel more involved in the Union. He put forward a motion, and in the next FTO/PTO election, a Part-time Commuter Students Officer will be elected.

Access for All

Part-time Students with Disabilities Officer, Chloe Morgan, put forward a motion for better disabled access to Students’ Union events. At the Student Forum, students agreed that this is what they wanted, so the motion passed. All future SU events will be easily accessible for everyone.

University eSports Association

Some students felt that there was a lack of support for eSports from NUS, so they put forward a motion for the Union take the proposal to the next NUS Wales Conference. The motion passed and was taken to next NUS Wales Conference.

If you want to submit a motion to be discussed at the next Student Forum, get in touch with the Student Voice Team on student.voice@swansea-union.co.uk!

Cynigion

Yn Undeb y Myfyrwyr, chi sy’n dod yn gyntaf. Mae myfyrwyr yng nghanol popeth rydyn ni’n ei wneud. Felly rydyn ni am i chi ddweud eich dweud!

Mae’n haws nag erioed i newid rhywbeth yn yr Undeb. Os yw’n fawr neu’n fach, gadewch i ni wneud y newid gyda’n gilydd. Dyma sut:

Pedair gwaith y flwyddyn, rydyn ni’n cynnal Fforwm Myfyrwyr i adrodd ar ein gwaith diweddar, gofyn am adborth a syniadau myfyrwyr a gadael i chi ein cwestiynu ni.

Gall cynigion gael eu pasio yn fforymau myfyrwyr. Os oes syniad gan fyfyriwr, bydd rhaid iddo ysgrifennu 400 gair am y syniad, mynd i fforwm myfyrwyr ac egluro i fyfyrwyr pam mae’r syniad yn un da, ac os yw’r mwyafrif o bobl yno yn cytuno, bydd e’n cael ei basio. Hawdd.

Dyma rai enghreifftiau o gynigon a gafodd eu pasio eleni:

Gwahardd gwellt plastig

Penderfynodd Swyddog Cymdeithasau a Gwasanaethau, Chris Freestone, fod e ddim am weld Undeb y Myfyrwyr yn defnyddio gwellt plastig o hyn ymlaen oherwydd yr effeithiau negyddol ar yr amgylchedd. Roedd y cynnig wedi pasio mewn fforwm myfyrwyr, a nawr does dim gwellt plastig yn ein bariau!

Swyddog Myfyrwyr sy’n Teithio

Roedd myfyriwr sy’n teithio i’r Brifysgol bob dydd yn teimlo nad oedd e’n cael ei gynrychioli’n deg ac roedd e am weld Swyddog Rhan-amser yn Undeb y Myfyrwyr i helpu myfyrwyr sy’n teithio deimlo fel rhan o’r Undeb. Ysgrifenodd gynnig, ac yn yr etholiad nesaf, bydd Swyddog Myfyrwyr sy’n Teithio yn cael ei ethol.

Mynediad i Bawb

Ysgrifennodd Swyddog Myfyrwyr ag Anableddau, Chloe Morgan, gynnig i wella mynediad pobl ag anableddau i ddigwyddiadau Undeb y Myfyrwyr. Yn y Fforwm Myfyrwyr, cytunodd y myfyrwyr ar hwn. Bydd pob digwyddiad yr UM yn y dyfodol yn hawdd i bawb eu mynychu.

Cymdeithas eSports y Brifysgol

Teimlodd rai myfyrwyr bod yna ddiffyg cymorth i eSports gan UCM, felly ysgrifennon nhw gynnig i’r Undeb fynd â’r syniad i Gynhadledd UCM Cymru nesaf. Cafodd y cynnig ei basio ac aeth yr Undeb ag e i Gynhadledd UCM Cymru.

Os ydych chi am gyflwyno cynnig i gael ei drafod yn y Fforwm Myfyrwyr nesaf, cysylltwch â Thîm Llais y Myfyrwyr ar student.voice@swansea-union.co.uk!

 
Swansea University Students' Union