As we make our way to the end of the final term we thought we'd take a look back at all the amazing things we did this year...
1. Our Full-time Officer team smashed it!
They've worked non-stop on their campaigns, and they even won NUS Wales Officer Team of the Year!
2. Our Election was HUGE
We had 19,189 votes for 49 candidates
3. #StudyAid helped you through your exams
We organised more events than ever before, and gave away hot drinks and biscuits to over 5,000 of you during January exams alone!
4. We ensured a 24-hour gap between all exams
Speaking of exams, your Education Officer lobbied the Uni for a longer gap between exams, so you won't have two exams in one day again!
5. We took your feedback on board
We got over 1,000 responses on our Speak Week survey, thanks to our Part-time Officers and Reps volunteering 200 hours of their time! We then listened to your feedback and acted on it.
6. We gave you over 30 Freshers events
Our Freshers Fortnight was HUGE. We had over 20,000 attendees over the fortnight and gave away a whole load of freebies!
7. We LOVE equality and diversity
We held campaigns for LGBT+ History Month, Black History Month, 16 Days of Activism Against Gender-based Violence, LGBT+ Mental Health Awareness Week, Hate Crime Awareness Week and more!
8. The Advice Centre kept on giving you the support you need...
We assisted students with a range of cases including academic, housing, financial, consumer and personal, and saved students a massive £55,366.86 in unfair charges, refunds, deposits and written off debts.
9. The Education Zone represented you
Our 350+ college and course reps asked you what you wanted to change, and they told the Uni. We also held an amazing Rep Conference to thank them all for their hard work this year!
10. We took over 52°
The student bar on Bay Campus is now run by us, which means cheaper prices, better deals and more events for students.
11. We put a ban on plastic straws
We did our bit for the planet and took all single-use plastic straws from our venues because of their massive environmental impact.
12. Charity was at the heart of what we do
Between out sports clubs, societies and campaigns, we raised over £15,000 for various charities this year!
13. Root
You loved it so much that we brought it back, bigger and better than before!
14. We took over the Post Office
The Singleton Campus Post Office is now run in Costcutter.
15. We increased our presence on Bay Campus
Along with taking over 52°, we held student forums on Bay Campus, held two International Food Markets and 4 of our 5 Full-time Officers now work there full-time.
16. Our sports clubs and societies grew
We now have over 130 societies, and 56 sports clubs, giving you the chance to meet friends, learn new skills and make amazing memories.
17. We're Best Bar None
Our bars all won Gold Best Bar None awards, which means you can enjoy a night at our venues knowing that we're doing our best to keep you safe!
18. We helped you become employable
We offered 18 work placements for students to join our team for the week and learn all about what we do!
19. We hosted Varsity
We put on a huuuge sports day for over 9,000 and smashed it! (Let's not talk about the result...)
20. We care about your mental health
Our Welfare Officer has secured a whopping £9,600 in funding for suicide prevention training
21. We gave you a voice
Most importantly, we gave you a platform to express your issues and opinions, and change the way the Union and Uni works because of our Students Forums. Students put forward 15 motions to be voted on by other students, and 12 passed.
Wrth i ni ddod at ddiwedd y tymor olaf, gadewch i ni edrych yn ôl ar yr holl bethau wych a ddigwyddodd eleni...
1. Roedd ein Swyddogion Llawn-amser yn wych!
Maen nhw wedi gweithio'n galed ar eu holl ymgyrchoedd, ac enillon nhw Tîm Swyddogion y Flwyddyn yn UCM Cymru am eu hymdrechion!
2. Roedd ein Hetholiad yn ENFAWR
Roedd yna 19,189 o bleidleisiau am 49 ymgeisydd!
3. Roedd #StudyAid yn eich helpu drwy'r cyfnod o arholiadau
Trefnon ni fwy o ddigwyddiadau nag erioed, a rhoddon ni ddiodydd poeth a bisgedi am ddim i dros 5,000 o fyfyrwyr ym mis Ionawr!
4. Roedden ni wedi sicrhau bwlch o 24 awr rhwng pob arholiad
Lobiodd eich Swyddog Addysg y Brifysgol am gael mwy o fwlch rhwng arholiadau, felly ni fydd rhaid i chi sefyll mwy nag un arholiad mewn un dydd eto!
5. Gwrandawon ni ar eich adborth
Casglon ni dros 1,000 o ymatebion yn ein harolwg Wythnos Adborth, diolch i'n Swyddogion Rhan-amser a Chynrychiolwyr yn gwirfoddoli 200 o oriau o'u hamser! Gwrandawon ni ar eich adborth a dyma'n hymateb.
6. Trefnon ni dros 30 digwyddiad dros Bythefnos y Glas
Roedd Pythefnos y Glas yn ENFAWR. Daeth dros 20,000 o fyfyrwyr dros y pythefnod a rhoddon ni cannoedd o bethau am ddim!
7. Rydyn ni wedi sicrhau cyfartaledd ac amrywiaeth
Cynhalion ni ymgyrchoedd ar gyfer Mis Hanes LHDT+, Mis Hanes Pobl Dduon, 16 Diwrnod o Weithredaeth, Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddyliol LHDT+, Wythnos Ymwybyddiaeth Trais Casineb a mwy!
8. Rhoddod y Ganolfan Gyngor y Cymorth oedd ei angen...
Helpon ni fyfyrwyr gydag amryw o achosion gan gynnwys academaidd, tai, ariannol, a phersonol, ac arbedon ni £55,366.86 i fyfyrwyr oherwydd ffioedd ffug.
9. Roedd y Parth Addysg wedi cynrychioli chi
Mae gennym ni dros 350 o gynrychiolwyr a ofynoch chi am eich adborth, cyn mynd ag e i'r Brifysgol. Cynhalion ni Gynhadledd iddynt er mwyn dweud diolch am eu holl waith caled dros y flwyddyn!
10. Cymeron ni dros 52°
Rydyn ni nawr yn cynnal y bar ar Gampws y Bae, sy'n meddwl bod prisiau rhatach, delion gwell a rhagor o ddigwyddiadau i fyfyrwyr.
11. Rydyn ni wedi gwahardd gwellt plastig
Helpon ni'r blaned drwy gael gwared ar yr holl wellt plastig yn ein bariau oherwydd eu heffaith ar yr amgylchedd.
12. Roed elusennau wrth wraidd ein gwaith
Gyda chymorth clybiau chwaraeon, cymdeithasau ac ymgyrchoedd, codon ni dros £15,000 ar gyfer elusennau eleni!
13. Root
Roedd y siop mor boblogaidd, ehangon ni arno er mwyn gallu gwerthu rhagor o fwyd!
14. Cymeron ni dros Swyddfa'r Post
Mae Swyddfa'r Post ar Gampws Singleton nawr wedi'i leoli yn Costcutter.
15. Mae gennym ni fwy o bresenoldeb ar Gampws y Bae
Ynghyd â chymryd dros 52°, cynhalion ni fforymau myfyrwyr ar Gampws y Bae, trefnon ni ddau Farchnad Rhyngwladol yno ac mae 4 o'r 5 Swyddog Llawn-amser yn gweithio yno llawn-amser.
16. Tyfodd ein clybiau chwaraeon a chymdeithasau
Mae yna nawr dros 130 o gymdeithasau a 56 o glybiau chwaraeon, sy'n rhoi'r cyfle i chi cwrdd â ffrindiau, dysgu sgiliau newydd a gwneud atgofion gwych.
17. Enillon ni wobr Best Bar None
Enillodd ein bariau gwobrwyon aur, sy'n golygu y gallwch chi fwynhau nosweithiau yno gan wybod ein bod ni'n gwneud ein gorau i gadw chi'n ddiogel!
18. Rhoddon ni gyfle i chi fod yn fwy cyflogadwy
Cynigion ni 18 cyfle i fyfyrwyr wneud wythnos o brofiad gwaith er mwyn ymuno â'r tîm a dysgu am ein gwaith!
19. Cynhalion ni Varsity
Trefnon ni ddiwrnod chwaraeon enfawr ar gyfer dros 9,000 o fyfyrwyr ac roedd hi'n wych! (Cyn i unrhyw un ofyn am y canlyniad...)
20. Rydyn ni'n gofalu am eich iechyd meddyliol
Mae ein Swyddog Lles wedi llwyddo i gael £9,600 o gyllid ar gyfer hyfforddiant atal hunanladdiad
21. Rhoddon ni lais i chi
Yn bwysicach byth, rhoddon ni blatfform i chi fynegi eich materion a barnau, a newid y ffordd mae'r Undeb a'r Brifysgol yn gweithio yn ein Fforymau Myfyrwyr. Cyflwynodd myfyrwyr 15 o gynigion i gael eu pleidleisio arnynt gan fyfyrwyr eraill, a phasiwyd 12 ohonynt.