Mae Abigail wedi bod yn astudio’r Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Abertawe am y 4 blynedd diwethaf ac mae’n cyflawni rôl y Swyddog Lles am y flwyddyn academaidd 22/23. Gyda’r bwriad o wneud newid cadarnhaol, mae Abigail yn gobeithio y bydd ei hangerdd dros helpu pobl yn ei chynorthwyo yn ei rôl fel Swyddog Lles eleni.
Bydd Abigail yn darparu cefnogaeth i fyfyrwyr ac yn gweithio gyda'r Ganolfan Cyngor a Chymorth i sicrhau bod myfyrwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, yn enwedig o ran eu hiechyd a'u lles.