Ceisiadau Sioe Xtreme.
Eisiau bod yn DJ ar y radio?
Xtreme yw gorsaf radio campws Prifysgol Abertawe. Maen nhw’n cynnig y cyfle i ti gyflwyno rhaglen dy hun yn fyw ar y radio.
Mae’r amserlen wedi’i rhannu i ddwy adran, gan ddarlledu am 24 awr y dydd. Rhwng 9am a 5pm maent yn darlledu cerddoriaeth siart i ti wrando arni wrth i astudio. Rhwng 5pm a 9pm a thrwy'r dydd ar benwythnosau, mae gan gyflwynwyr ryddid i ddefnyddio amrywiaeth ehangach o gerddoriaeth - neu ddim cerddoriaeth o gwbl os wyt ti’n hoff o radio siarad neu bodlediadau.
Nid oes angen profiad blaenorol, maent yn darparu’r holl hyfforddiant, a harddwch radio myfyrwyr yw ei bod hi i ti a dy ffrindiau fwynhau a rhoi cynnig ar rywbeth newydd. Diddordeb? Cofrestra yma.
|