Candidate for the position of Mature Students' Officer

Image for Liz Sanders

Liz Sanders

Liz Sanders – Mature Students Officer – Manifesto 

About Me 

Hi there, I’m Liz Sanders, a 2nd year Ancient History student. I am also a parent and mature student.  I am the current SU Mature Student Officer and the President of the Student Plus Society, for atypical students including mature, parents or carers. I am running for the Mature Officer role for a second year because I enjoyed it so much the first-time round! In the past year I have increased the size of the society for mature students, held Induction events for atypical students, ran a Mature Student Conference, raised issues such as timetabling, inclusivity, placements, extenuating circumstances and will be taking part in NUS UK to try to make national changes in support of mature students.  

Manifesto Commitments 

Continue to promote mature students: 

Mature students make up 47% of Swansea’s undergrads, and 68% of our postgrads. Despite this, mature students are often an after-thought (if thought about at all) in the university community. I have raised this issue consistently throughout SU and NUS meetings, and as result changes are being made. There is a mature induction event held in the summer now, we have had a Mature Conference, there is an active society for these students and events are now planned and made with mature students in mind (could they attend at this time, how would this help mature students?). I hope to continue doing this for another year and continuing the raise the profile of one of the quietest groups on campus. 

Continue to raise our issues: 

This past year I have continually raised issues that mature students face at Swansea University to try to combat this. This includes late timetables (hard to plan work or childcare around), late placement provision, lack of lockers (post-Covid!), foodbanks, lack of dedicated social events and lack of attention by the university and SU. I have even raised these issues at NUS. We deserve a voice and to be included in events at the university and not forgotten. I will continue to raise the issues students bring to me and hope to leave Swansea University a better place than I found it.  

Hold a Mature Conference and more Induction Events: 

Last year saw the first Mature Conference which went down a big success, especially hearing from past mature Swansea University alumni who have gone on to do great thinks. I hope to increase the size of this event for next year. Last year also saw CampusLife host a Mature Induction event, which I was involved in. I hope to increase the size of this event and spread more knowledge and help with future and current Swansea University students.  

Vote Liz for Mature Officer! 

You can vote online for Officers and Referendums at www.swansea-union.co.uk/elections/ anytime between 11am on Monday 8th March – 1pm on Thursday 11th March 2021 

 

Liz Sanders – Swyddog Myfyrwyr Hyn – Maniffesto 

Amdanaf i 

Shwmae, Liz Sanders ydw i, myfyriwr Hanes yr Henfyd yn fy ail flwyddyn. Rydw i hefyd yn rhiant ac yn fyfyriwr hyn. Fi yw Swyddog Myfyrwyr Hyn cyfredol UM a Llywydd y Gymdeithas Myfyrwyr a Mwy, ar gyfer myfyrwyr annodweddiadol gan gynnwys myfyrwyr hyn, rhieni neu ofalwyr. Rwy'n ymgeisio am rôl y Swyddog Hyn am yr ail flwyddyn oherwydd i mi fwynhau cymaint y tro cyntaf! Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rydw i wedi cynyddu maint y gymdeithas ar gyfer myfyrwyr hyn, wedi cynnal digwyddiadau sefydlu ar gyfer myfyrwyr annodweddiadol, wedi cynnal Cynhadledd Myfyrwyr Hyn, wedi codi materion fel amserlennu, cynwysoldeb, lleoliadau, amgylchiadau esgusodol a byddaf yn cymryd rhan yn UCM y DU i geisio wneud newidiadau cenedlaethol i gefnogi myfyrwyr hyn.  

Addewidion y Maniffesto 

Parhau i hyrwyddo myfyrwyr hyn: 

Mae myfyrwyr hyn yn cyfrif am 47% o israddedigion Abertawe, a 68% o ôl-raddedigion. Er gwaethaf hyn, mae myfyrwyr hyn yn aml yn ôl-feddwl (os meddylir amdanynt o gwbl) yng nghymuned y Brifysgol. Rydw i wedi codi'r mater hwn yn gyson trwy gydol cyfarfodydd UM a UCM, ac o ganlyniad mae newidiadau'n cael eu gwneud. Mae digwyddiad sefydlu myfyrwyr hyn yn cael ei gynnal yn yr haf, rydyn ni wedi cynnal Cynhadledd Myfyrwyr Hyn, mae yna gymdeithas weithredol ar gyfer y myfyrwyr hyn ac mae digwyddiadau bellach yn cael eu cynllunio a'u gwneud gyda myfyrwyr hyn mewn golwg (a allent fynychu ar yr adeg hon, sut fyddai hyn yn helpu myfyrwyr hyn?). Rwy'n gobeithio parhau i wneud hyn am flwyddyn arall a pharhau i godi proffil un o'r grwpiau tawelaf ar y campws.  

Parhau i godi ein materion: 

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydw i wedi codi materion yn barhaus y mae myfyrwyr hyn yn eu hwynebu ym Mhrifysgol Abertawe i geisio brwydro yn eu herbyn. Mae hyn yn cynnwys amserlenni hwyr (sy’n anodd trefnu o amgylch y gwaith neu ofal plant), darpariaeth lleoliadau hwyr, diffyg loceri (ar ôl Covid!), banciau bwyd, diffyg digwyddiadau cymdeithasol pwrpasol a diffyg sylw gan y Brifysgol ac UM. Rydw i hyd yn oed wedi codi'r materion hyn yn UCM. Rydyn ni’n haeddu llais ac i gael ein cynnwys mewn digwyddiadau yn y Brifysgol a heb ein hanghofio. Byddaf yn parhau i godi'r materion y mae myfyrwyr yn eu dod ataf ac yn gobeithio gadael Prifysgol Abertawe yn lle gwell nag y des i o hyd iddo.  

Cynnal Cynhadledd Myfyrwyr Hyn a rhagor o ddigwyddiadau sefydlu: 

Llynedd, gwelwyd y Gynhadledd Myfyrwyr Hyn gyntaf a oedd yn llwyddiant mawr, yn enwedig clywed gan gyn-fyfyrwyr hyn Prifysgol Abertawe sydd wedi mynd ymlaen i wneud pethau mawr. Rwy'n gobeithio cynyddu maint y digwyddiad hwn ar gyfer y flwyddyn nesaf. Hefyd llynedd, cynhaliodd BywydCampws ddigwyddiad Sefydlu Myfyrwyr Hyn, ac roeddwn i'n rhan ohono. Rwy'n gobeithio cynyddu maint y digwyddiad hwn a lledaenu mwy o wybodaeth a help gyda myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn y dyfodol a chyfredol. 

Pleidleisiwch dros Liz ar gyfer rôl y Swyddog Myfyrwyr Hyn! 

Gallwch bleidleisio dros Swyddogion a Refferenda ar www.swansea-union.co.uk/elections unrhyw bryd rhwng 11am ar Ddydd Llun 8fed Mawrth - 1pm ar Ddydd Iau 11eg Mawrth 2021.