Candidate for the position of President

Image for Georgie Annett

Georgie Annett

GEORGIE ANNETT  

Hi! My name is Georgie Annett and I’m running for the post of 2021-2022 Swansea Student Union President. 

 

For the past few years Swansea has been my home and as a third culture individual I am strongly aware of the importance of the student community which has provided me security and strength throughout my time here. 

 

I am an upbeat, positive and honest candidate. I love to listen with the intent to problem solve. In addition to my tenacity, I’ve had plenty of relevant experience ranging from being a mind charity campaigner to assisting multiple fundraisers both inside and outside of university life. I also used the COVID overcast summer term, to help and set up new organisational structures in a small agency company. I have had business and financial experience in a company dealing with COVID implications, which will be useful to help the university succeed through this pandemic. 

 

Swansea has given me so much, in return I want to enable every student to get the most out of their Swansea student experience, and I believe my skillset presents me as a very strong individual for the position. 

 

I therefore pledge to- 

 

IMPROVE WELL-BEING AND SAFTEY OF UNIVERSITY STUDENTS 

Contact Swansea County Council and lobby for the improved safety of Singleton Park. 

In the UK 1 in 7 females have become a victim of sexual assault 

It is imperative to ensure a safer environment to alleviate student stress 

By creating an online or face to face space where students can flag up any suspicious activity in or around campus, we can combat student concerns 

Educate students and faculty on race and issues regarding racism 

Where possible further decolonise the curriculum by broadening the syllabus away from a Eurocentric worldview 

Provide education opportunities and create groups for students to learn how to be active in the BLM movement 

Increase the accessibility of the welfare services to students 

This is a really positive service the university offers. To make it even better we should strive to offer emergency/same day appointments to combat the mental health of students 

Be able to book repeat appointments at regular intervals without extensive waits 

 

UPGRADE YOUR STUDENT EXPERIENCE 

Bring back the Dockyard (COVID laws permitting) 

Implement a social space such as Singleton campus’s JC’s on the refurbished HSV to encourage students to broaden their social bubble among campuses (COVID laws permitting) 

Improve links with outside companies, in turn improving employability for graduates. 

With more than half of UK firms currently planning to hire new staff post-pandemic (https://www.bbc.co.uk/news/business-56149661) 

By creating links with these businesses, we can help students achieve a graduate job and get them started in the job market 

 

‘You can vote online for Officers and Referendums at www.swansea-union.co.uk/elections anytime between 11am on Monday 8th March – 1pm on Thursday 11th March 2021.’ 

 

GEORGIE ANNETT  

Helo! Fy enw i yw Georgie Annett ac rwy’n ymgeisio am swydd 2021-2022 Llywydd Undeb Myfyrwyr Abertawe. 

 

Dros y blynyddoedd diwethaf mae Abertawe wedi bod yn gartref I mi ac fel unigolyn trydydd diwylliant rwy'n ymwybodol iawn o bwysigrwydd y gymuned o fyfyrwyr sydd wedi darparu diogelwch a chryfder i mi trwy gydol fy amser yma.  

 

Rwy'n ymgeisydd brwd, cadarnhaol a gonest. Rydw i wrth fy modd yn gwrando gyda'r bwriad i ddatrys problemau. Yn ogystal â fy nycnwch, mae gen i ddigon o brofiad perthnasol yn amrywio o fod yn ymgyrchydd elusennol i Mind, i gynorthwyo sawl prosiect codi arian o fewn y Brifysgol a thu hwnt. Hefyd, defnyddiais i dymor haf cymylog COVID i helpu a sefydlu strwythurau sefydliadol newydd mewn cwmni asiantaeth fach. Mae gen i brofiad busnes ac ariannol mewn cwmni sy'n delio â goblygiadau COVID, a fydd yn ddefnyddiol i helpu'r Brifysgol i lwyddo trwy'r pandemig hwn. 

 

Mae Abertawe wedi rhoi cymaint i mi, ac rydw i am alluogi pob myfyriwr i gael y gorau o’u profiad myfyriwr yn Abertawe, a chredaf fod fy sgiliau yn golygu fy mod i'n unigolyn cryf iawn ar gyfer y swydd.  

 

Rydw i felly yn addo - 

 

GWELLA LLES A DIOGELWCH MYFYRWYR Y BRIFYSGOL 

Cysylltu â Chyngor Sir Abertawe a lobïo am well diogelwch ym Mharc Singleton 

Yn y DU mae 1 o bob 7 benyw wedi dioddef ymosodiad rhywiol 

Mae'n hanfodol sicrhau amgylchedd mwy diogel i leddfu straen myfyrwyr 

Trwy greu gofod ar-lein neu wyneb yn wyneb lle gall myfyrwyr dynnu sylw at unrhyw weithgaredd amheus ar y campws neu o'u cwmpas, gallwn frwydro yn erbyn pryderon myfyrwyr 

Addysgu myfyrwyr a chyfadrannau ar hil a materion yn ymwneud â hiliaeth 

Lle bo modd, datwaddoli’r cwricwlwm ymhellach trwy ehangu'r maes llafur i ffwrdd o fyd-olwg Ewropeaidd yn unig 

Darparu cyfleoedd addysg a chreu grwpiau i fyfyrwyr ddysgu sut i fod yn weithredol yn y mudiad BLM  

Cynyddu hygyrchedd y gwasanaethau lles i fyfyrwyr 

Mae hwn yn wasanaeth cadarnhaol iawn y mae'r Brifysgol yn ei gynnig. Er mwyn ei wneud hyd yn oed yn well dylem ymdrechu i gynnig apwyntiadau brys/yr un diwrnod i helpu iechyd meddwl myfyrwyr 

Y gallu i archebu apwyntiadau ailadroddus yn rheolaidd heb aros am amser hir 

 

GWELLA PROFIADAU MYFYRWYR 

Ailgyflwyno’r Dockyard (os yw rheolau COVID yn caniatáu) 

Gweithredu gofod cymdeithasol fel JC’s ar Gampws Singleton ar yr HSV newydd i annog myfyrwyr i ehangu eu swigen gymdeithasol ymhlith campysau (os yw rheolau COVID yn caniatáu) 

Gwella cysylltiadau â chwmnïau allanol, gan wella cyflogadwyedd graddedigion yn ei dro 

Gyda mwy na hanner cwmnïau'r DU ar hyn o bryd yn bwriadu cyflogi staff newydd ar ôl pandemig (https://www.bbc.co.uk/news/business-56149661) 

Trwy greu cysylltiadau â'r busnesau hyn, gallwn helpu myfyrwyr i gyflawni swydd a'u rhoi ar ben ffordd yn y farchnad swyddi  

 

Gallwch bleidleisio dros Swyddogion a Refferenda ar www.swansea-union.co.uk/elections/ unrhyw bryd rhwng 11am ar Ddydd Llun 8fed Mawrth - 1pm ar Ddydd Iau 11eg Mawrth 2021.