Candidate for the position of Swyddog Materion Cymraeg - Welsh Affairs Officer

Image for SOPHIE WILLIAMS

SOPHIE WILLIAMS

Hello, I’m Sophie, currently a third year Welsh student. Coming to Swansea and realising so little use of Welsh in the university made me very passionate about wanting to make a change. Therefore, I invited the vice-chancellor of the University to my second year presentation, regarding the use of welsh language and presented key points I’d like to improve. Hereafter, we were invited to a meeting with Student Union representatives and the welsh language compliancy officers to voice our opinions as students. I also work as a student ambassador where I focus on creating Welsh digital content for students, current and candidates, ensuring a healthy balance between the use of English and Welsh. But I not only wanted change within our university, so through an ambassador job with the ‘Coleg Cymraeg Cenedlaethol’ I concentrated on collaborating with students across wales to get Swansea heard and praised.  

 

Helo! Sophie Williams yw fy enw i, ac rwyn fyfyrwraig drydedd flwyddyn yn astudio’r Gymraeg. Ers symud i Abertawe a sylwi cyn lleied o ddefnydd o’r gymraeg gan y Brifysgol, roeddwn yn angerddol i hybu newid. Tra’n cwblhau fy astudiaethau, fe wnaethom gyflwyniad o flaen yr is-ganhellor yn nodi diffyg defnydd o’r Gymraeg, a pwyntiau allweddol yr hoffaf wella. Yn sgil hyn, fynychais gyfarfod a Swyddogion Polisi Iaith Gymraeg a swyddogion yr Undeb er mwyn lleisio ein barn ar wella’r ddarpariaeth fel myfyrwyr. Ar hyn o bryd rwy’n gweithio fel llysgennad i’r brifysgol yn creu cynnwys ddigidol, gan sicrhau fod defnydd cyfartal o’r gymraeg a’r Saesneg ar ein gwefannau. Ond, nid yn unig gwella sefyllfa’r gymraeg o fewn y brifysgol yw fy nod, felly fel llysgennad Coleg Cymraeg Cenedlaethol y llynedd, fe geisiais gyd-weithio a myfyrwyr ledled Cymru i godi ymwybyddiaeth Abertawe a’i ganmol yn Gymraeg.  

 

As your new Welsh affairs officer, my priority is to broaden the availability, and understanding of Welsh to all students and staff - ensuring everyone has the opportunity to learn and participate in welsh celebrations and activities. In order to create more transparency between the multicutural staff and students, I will be completing these points presented below –  

 

  1. Establish a strong relationship with the Education officer in order to collab successfully in improving the Welsh Language Policy – My main goal is to widen the scope of Welsh modules available across all courses.  

 

  1. Provide compulsory induction courses on Welsh culture for university staff, and optional courses for students, in order to change negative attitudes and educate people about Welsh culture and the Welsh language. Especially other Full-time officers working with the Welsh affairs officer as understanding the true meaning of the job and bilinguality is key. 

 

  1. Improving the groundwork already in place when welcoming new students at the start of term with an aim to increase their confidence using Welsh. Firstly, by establishing an online group for all welsh students, and students wishing to learn welsh, before arriving on campus. Also, creating a pamfflet containing all the relevant information needed to increase students knowledge regarding their rights as welsh speakers.  

 

  1. Expand on the work of previous Welsh affairs officers, In collaboration with the Welsh society’s president, Academi Hywel Teifi and all Welsh University staff, to continue the on-campus group, open to learners and confident speakers to communicate in a relaxed environment monthly. Also, Develop the success of Shwmae day through other promotional undertakings by setting up a Welsh heritage month.  

 

  1. Work with the Welsh Language Policy officers to improve the standard, and expand on the amount of Welsh used by ensuring the Welsh language isnt the language of the translation unit only. E.g. within graduation ceremonies – by offering welsh ‘script’ reading to members participating to ensure correct pronounciation. 

 

If you agree with my manifesto I would greatly appreciate your vote #SophamSwyddog! 

 

You can vote online for Officers and Referendums at?www.swansea-union.co.uk/elections/ anytime between 11am on Monday 8th March – 1pm on Thursday 11th March 2021! 

 

Fel eich swyddog materion Cymraeg newydd, fy mhrif flaenoriaeth yw ehangu dealltwriaeth yr holl Staff a myfyrwyr o’r Gymraeg - gan sicrhau bod pawb yn cael cyfle i ddysgu a chymryd rhan mewn dathliadau a gweithgareddau Cymreig. Er mwyn cael mwy o dryloywder rhwng y staff a myfyrwyr amlddiwylliannol, byddaf yn cwblhau'r pwyntiau a gyflwynir isod - 

 

  1. Sefydlu perthynas gadarn efo’r Swyddog Addysg – i wella’r polisi iaith Gymraeg o fewn y Brifysgol – fy mhrif nod yw gwella’r amrywiaeth o fodiwlau Cymraeg sydd ar gael ymhob cwrs.  

 

  1. Darparu cyrsiau sefydlu gorfodol ar ddiwylliant i staff y Brifysgol, a rhai dewisol i fyfyrwyr, er mwyn newid agweddau negyddol ac addysgu pobl am ddiwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg. Yn enwedig swyddogion llawn amser sy'n gweithio gyda'r swyddog materion Cymraeg gan fod deall gwir ystyr y swydd a phwysigrwydd dwyieithrwydd yn allweddol. 

 

  1. Gwella'r seilwaith sydd eisoes yn ei le wrth groesawu myfyrwyr newydd ar ddechrau'r tymor gyda'r nod o gynyddu eu hyder wrth ddefnyddio'r Gymraeg – Hynny trwy sefydlu grwp ar-lein ar gyfer pob myfyriwr Cymraeg, neu fyfyrwyr sy'n dymuno dysgu Cymraeg, cyn cyrraedd y campws. Hefyd, creu pamffled sy'n cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol sydd ei hangen i gynyddu gwybodaeth myfyrwyr am eu hawliau fel siaradwyr Cymraeg wrth astudio. 

 

  1. Ehangu ar waith swyddogion materion Cymraeg blaenorol, Mewn cydweithrediad â llywydd y Gymdeithas Gymraeg, Academi Hywel Teifi a holl staff Cymraeg y Brifysgol, byddaf yn parhau â'r grwp ar y campws, sy’n agored i ddysgwyr a siaradwyr hyderus i gyfathrebu mewn amgylchedd hamddenol yn fisol. Hefyd, datblygu llwyddiant dydd ‘Shwmae’ drwy gyfrwng ymgyrchoedd hyrwyddo eraill a sefydlu mis treftadaeth Cymru.  

 

  1. Gweithio gyda’r swyddogion Polisi Iaith Gymraeg i wella'r safon, ac ehangu ar faint o Gymraeg a ddefnyddir trwy sicrhau nad yw'r Gymraeg yn iaith i’r uned gyfieithu yn unig. E.e. o fewn seremonïau graddio - trwy gynnig darlleniad ‘sgript’ Cymraeg i’r aelodau sy’n cymryd rhan er mwyn sicrhau ynganiad cywir.  

 

Os ydych yn cytuno a’m maniffesto buaswn yn gwerthfawrogi eich pleidlais yn fawr #SophamSwyddog! 

 

Gallwch bledleisio ar-lein dros Swyddogion a Refferenda ar?www.swansea-union.co.uk/elections/ unrhyw bryd rhwng 11yb Ddydd Llun yr 8fed o Fawrth a 1yp Ddydd Iau yr 11eg o Fawrth 2021!