Mae Tocynnau Varsity ar werth NAWR!
Os nad wyt ti wedi clywed y newyddion eto, lle wyt ti wedi bod!? Mae diwrnod chwaraeon MWYAF calendrau myfyrwyr yn ôl ar gyfer 2023. Mae Varsity Cymru yn dychwelyd ar 26ain Ebrill ar gyfer ei 25ain penblwydd.
Mae tocynnau ar gael NAWR... ond byddant yn GWERTHU ALLAN YN GYFLYM felly paid ag oedi, CLICIA YMA NAWR!
Eleni bydd y tîm GWA yn teithio i Gaerdydd i gystadlu mewn mwy na 30 o chwaraeon dros amryw o leoliadau, gan gynnwys y sioe rygbi eithafol ym Mharc yr Arfau yng Nghaerdydd, gan arddangos rybi’r Merched a rygbi’r Dynion, a gêm griced wych yng Ngerddi Sophia.
Mae dau fath o docyn ar gael eleni:
Gwyl Varsity gyda dau gêm o rygbi – Mynediad ar ddiwrnod o gemau chwaraeon ledled Caerdydd gyda mynediad at RYGBI’R MERCHED A RYGBI’R DYNION ym Mharc yr Arfau yng Nghaerdydd, trafnidiaeth yno ac yn ôl, crys-T Varsity a pharti ecsgliwsif (£37.50 + ffi bwcio).
Gwyl Varsity - Mynediad ar ddiwrnod o gemau chwaraeon ledled Caerdydd gyda mynediad at GRICED Y MERCHED A CHRICED Y DYNION yn Stadiwm Gerddi Sophia, trafnidiaeth yno ac yn ôl, crys-T Varsity a pharti ecsgliwsif (£30 + ffi bwcio).
Mae Varsity wedi tyfu’n esbonyddol bob blwyddyn ers y digwyddiad cyntaf yn 1997, gan newid lleoliad rhwng Abertawe a Chaerdydd bob blwyddyn. Gyda mwy na 10,000 o fyfyrwyr yn mwynhau diwrnod llawn digwyddiadau chwaraeon, rydyn ni wir yn meddwl y bydd hwn yn un o’r digwyddiadau Varsity gorau hyd yn hyn.
|