img description img description

Y Gym Gym

Ymunwch â Chymdeithas Gymraeg (GymGym) Abertawe er mwyn cael y cyfle gorau i gymdeithasu gyda myfyrwyr eraill trwy gyfrwng y Gymraeg.

Memberships

  • Y Gym Gym Standard Membership£7.50
  • Y Gym Gym Associate Membership£8.00

About Us

Croeso i Gymdeithas Gymraeg Abertawe!

Dyma'r cyfle gorau i fyfyrwyr Cymraeg Abertawe gymdeithasu a chwrdd â siaradwyr Cymraeg eraill Prifysgol Abertawe. Ymunwch â ni ar un o'n crolau neu sosials, a chofiwch am ein tripiau i Aberystwyth ar gyfer y Ddawns Ryng-golegol, taith i Gaeredin (gobeithio!) ar gyfer twrnament y Chwe Gwlad a'r 'Steddfod Ryng-golegol. Mae'r tripiau yma yn gyfle gwych i gwrdd â hen ffrindiau a gwneud ffrindiau newydd o Gym Gym's eraill Prifysgolion Cymru a thu hwnt.

Blwyddyn diwethaf roedd y Gym Gym yn un o'r cymdeithasau i dderbyn gwobr 'Aur' o fewn system haenau Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe.

 

Rydym yn edrych ymlaen at flwyddyn arall gyffrous i'r Gym Gym y flwyddyn yma a fydd yn cynnwys amrywiaeth o ddigwyddiadau/tripiau fel y crôl teulu, cwis tafarn, trip i wylio rhaglen Jonathan yn cael ei ffilmio a llawer mwy.

Ewch ar ein tudalen Facebook er mwyn cael gwybod am ddigwyddiadau sydd i ddod.

Dilynwch ein cyfrif Trydar ac ein cyfrif Instagram

Trydar: @gymgym_abertawe

Instagram: gymgymabertawe

 

Gobeithio y cewch chi flwyddyn llawn hwyl a sbri gyda ni yn Gym Gym Abertawe!

Elen, Beca, Sion, Cara
(Pwyllgor y Gym Gym 2022/2023) 

 

Committee

Is-Lywydd
Gwenno Jobbins
Llywydd
Casi Jones
Trysorydd
Mabon Jones
Ysgrifennydd
Ffion James
Ysgrifennydd Cymdeithasol
Meleri Foster Evans