Yoga
Mae Prifysgol Abertawe yn darparu gwersi wythnosol a gweithdai unigol yn Nhy Fulton. Mae gwersi wythnosol yn cael eu dysgu gan ein athrawon profiadol Chris Robins a Samantha Phillips, mewn amgylchedd cyfeillgar a thawel. Mae’r gwersi yn cael eu trefni we mwyn cynyddu hyblygrwydd a chryfder wrth hybu ymlaciad.
Mae gwersi dydd Mawrth yn cael eu dysgu mewn traddodiad B. K. S. Iyengar; mae’r ystumiau mwy deinamig yn cynrychioli gwrthbwynt defnyddio i agweddau mwy eisteddog o fywyd myfyrwyr, tra fod y rhai mwyaf llonydd yn gallu ymddwyn fel gwrthwenwynau defnyddiol ar gyfer straen arholiadau. Mae’r dosbarth yn fwyaf defnyddiol ar gyfer rheiny gydag anafiadau gan fod yr ystumiau yn gallu cael eu haddasu gyda phropiau i weddu materion personol.
Mae gwersi dydd Iau yn cael eu cynnal mewn traddodiad Sivananda gyda ffocws ar anadlu a dilyniannau e.e. cyfarchon yr haul. Mae yna cyfnod o ymlacio ar ddiwedd bob gwers, sy’n para am o leiaf 10 munud.
Mae’r gymdeithas yn cynnal dau dosbarth Yoga wythnosol yn ystof amser y tymor, dydd Mawrth a dydd Iau o 6-7:30yp yn yr Ystafell Mandela, yn Nhy Fulton. Mae’r gwesi a’r gweithdai ar agor i ddysgwyr, yn ogystal â rheiny gyda mwy o brofiad. Gallech chi ddod yn aelod o’r gymdeithas a rddechrau’r dosbarth neu arlein trwy gydol y flwyddyn am £5: http://www.swansea-union.co.uk/activities/yoga/
Costau:
£5 aelodau, £7 eraill
Mae gennym 15 mat sydd ar gael i fenthyg ar ddechrau bob dosbarth am ddim ond y gyntaf i’r felin gaiff falu.
Am y gwersi, gwisgwch ddillad cyfforddus a allech symud mewn a nad sy’n gorchuddio’ch traed e.e. leggings, siorts, a throwsus byr. Nid ydym yn caniatau esgidiau, sannau neu teits yn y gwersi. Os oes unrhyw gwestiynau gennych, peidiwch ag ofni ebostio yoga@swansea-union.co.uk
Nodwch fod lleoliadau’r gwersi yn gallu newid a bydd diweddariadau yn cael eu danfon trwy ebost, Facebook neu Drydar.
Rydym yn edrych ymlaen at weld chi yn ein gwersi.
Cymdeithas Yoga Abertawe.
Pwyllgor:
Llywydd - Natalie Vaughan
Is-Llywydd - Lili Thompson
Trysorydd - Abby Cox
Ysgrifennydd - Leah Bromley
ysgrifennydd cymdeithaso - Lydie Glendinning