Candidate for the position of Women's Officer

Image for ARIANNA RAHIMAH BATES

ARIANNA RAHIMAH BATES

Fel menyw rwy’n credu mewn grymuso a dyrchafu menywod eraill, ac fel myfyriwr, rwy’n deall yr heriau unigryw y mae myfyrwyr benywaidd yn eu hwynebu. Dyna pam rydw i'n ymgeisio am rôl y Swyddog Menywod, gyda’r nod o greu amgylchedd diogel, cefnogol a chynhwysol. Rwy'n ymroddedig i ddyrchafu, grymuso, ac eiriol dros fyfyrwyr benywaidd ein cymuned.

Fel myfyriwr Ffiseg, mae gen i ddealltwriaeth ddofn o'r heriau a'r rhwystrau sy'n wynebu menywod mewn meysydd STEM. Rwy’n credu mewn cyfle cyfartal a chreu amgylchedd diogel a chynhwysol i bob menyw yng nghymuned y Brifysgol.

Os byddaf yn cael fy ethol yn Swyddog Menywod, byddaf yn ymdrechu i rymuso a chefnogi myfyrwyr benywaidd yn eu twf academaidd a phersonol.

  1. Cydraddoldeb Rhywiol: Rwy’n credu mewn hyrwyddo a brwydro dros gydraddoldeb rhywiol ar bob lefel, gan gynnwys cyflog cyfartal, cyfle cyfartal, a thriniaeth gyfartal.
  2. Diogelwch a Sicrwydd: Rydw i wedi ymrwymo i sicrhau bod pob myfyriwr benywaidd yn teimlo'n ddiogel ar y campws. Byddaf yn gweithio i sefydlu mannau diogel i fenywod ar y campws, lle gallant ddod at ei gilydd a chefnogi ei gilydd, heb ofn na barn.
  3. Amrywiaeth a Chynhwysiant: Drwy fod o Malaysia ac yn Fwslimaidd, rwy'n cydnabod pwysigrwydd amrywiaeth a chynhwysiant a byddaf yn ymdrechu i greu amgylchedd campws croesawgar a chynhwysol i bob myfyriwr benywaidd, waeth beth fo'i hil, ethnigrwydd, crefydd, rhywioldeb neu gefndir. Trwy gofleidio amrywiaeth y merched ar y campws, gan gynnwys y rhai o wahanol hiliau, diwylliannau, cyfeiriadedd rhywiol, a galluoedd. Byddaf yn gweithio i greu amgylchedd croesawgar a chynhwysol i bob menyw.
  4. Annog Mentora: Byddaf yn gweithio i feithrin cyfleoedd mentora rhwng myfyrwyr benywaidd a menywod llwyddiannus yn eu meysydd, gan helpu i bontio’r bwlch a darparu arweiniad a chefnogaeth.
  5. Ymgysylltu â’r Gymuned: Byddaf yn ymgysylltu â menywod ar draws cymuned y Brifysgol, gan gynnwys myfyrwyr, y cyfadran a staff i gasglu eu safbwyntiau a chydweithio i gyflawni ein nodau cyffredin.

I gloi, rydw i wedi ymrwymo i gael effaith gadarnhaol ar fenywod yn ein Prifysgol, a chredaf y gallwn gyda’n gilydd greu Prifysgol sy’n grymuso menywod i ddilyn yr hyn maen nhw’n frwdfrydig drosto ac i wneud eu marc ar y byd. Gyda dy gefnogaeth ti, rwy’n hyderus y gallwn greu Prifysgol lle mae menywod yn ffynnu ac yn llwyddo, a lle mae gan wyddoniaeth ymhlith meysydd eraill y pwer i newid y byd.

---------------------------------------------------------------------------------

As a woman I believe in empowering and uplifting other women, and as a student, I understand the unique challenges that female students face. That is why I am running for the position of Women's Officer, with the goal of creating a safe, supportive, and inclusive environment. I am dedicated to uplifting, empowering, and advocating for the female students of our community. 
As a Physics student, I have a deep understanding of the challenges and barriers faced by women in STEM fields. I believe in equal opportunities and creating a safe and inclusive environment for all women in the university community. 
If I become Women's Officer, I will strive to empower and support female students in their academic and personal growth. 

  1. Gender Equality: I believe in promoting and fighting for gender equality on all levels, including equal pay, equal opportunities, and equal treatment.
  2. Safety and Security: I am committed to ensuring that all female students feel safe and secure on campus. I will work to establish safe spaces for women on campus, where they can come together and support one another, free from fear or judgement. 
  3. Diversity and Inclusion: Being Malaysian and Muslim I recognize the importance of diversity and inclusion and will strive to create a welcoming and inclusive campus environment for all female students, regardless of race, ethnicity, religion, sexuality, or background. By embracing the diversity of women on campus, including those of different races, cultures, sexual orientations, and abilities. I will work to create a welcoming and inclusive environment for all women.
  4. Encourage Mentorship: I will work to foster mentorship opportunities between female students and successful women in their fields, helping to bridge the gap and provide guidance and support.
  5. Engage the Community: I will engage with women across the university community, including students, faculty, and staff, to gather their perspectives and work together to achieve our shared goals. 

In conclusion, I am committed to making a positive impact for women at our university, and I believe that together we can create a university that empowers women to pursue their passions and to make their mark on the world. With your support, I am confident that we can create a university where women thrive and succeed, and where science among other fields have the power to change the world.