Eleni, mae Undeb y Myfyrwyr yn cynnal ymgyrch Tashwedd i godi ymwybyddiaeth o ddynion yn gofalu am eu hiechyd corfforol ac iechyd.
Gwna’n siwr dy fod yn cadw llygad ar gyfryngau cymdeithasol Undeb y Myfyrwyr dros y mis i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau, gweithgareddau a chystadlaethau!
I ddechrau'r mis, rydyn ni'n cynnal Cwis Mawr Elusennol Tashwedd. Ymuna â ni yn y Ffreutur ar Ddydd Sul 7fed. Paid â phoeni, does dim angen bod yn athrylith arbennig – ond mae angen bod yn barod i chwerthin a chodi arian at achos gwych.
Pris y tocynnau yw £2 y person neu £10 am fwrdd o 6! Bydd angen gwneud taliadau arian parod wrth y drws.
Os yw dy glwb neu gymdeithas yn awyddus i gymryd rhan a chodi arian at yr achos teilwng hwn, ymuna â thîm Tashwedd Prifysgol Abertawe yma.
|