Mis Ymwybyddiaeth Endometriosis.
Mae mis Mawrth yn cael ei adnabod yn genedlaethol fel Mis Ymwybyddiaeth Endometriosis.
Mae endometriosis neu Endo yn fyr, yn salwch cronig sy'n effeithio ar 1 o bob 10 menyw. Mae hefyd yn ‘salwch anweledig’, mae’r math hwn o salwch yn hunanesboniadol, o’r tu allan nid oes modd ei weld. Mae'r afiechyd hwn yn dwyllodrus o gyffredin ond nid yw diagnosis yn digwydd ddigon. Ar gyfartaledd mae'n cymryd tua 8 mlynedd i gael diagnosis meddygol swyddogol.
Mae’r elusen ‘Endometriosis UK’ eisiau gwella bywydau’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan endometriosis a gweithio tuag at ddyfodol lle mae’n cael yr effaith leiaf posib ar y rhai sy’n byw gyda’r cyflwr.
Edrycha ar eu gwefan gan ddefnyddio'r ddolen isod ar gyfer digwyddiadau sydd i ddod a sut i gymryd rhan mewn lledaenu'r gair!
|