Bysiau’r Brifysgol
Mewn ymateb i First Bus yn penderfynu peidio ag adfer eu gwasanaeth bws 24 awr, rydyn ni wedi gweithio'n agos gyda'r Brifysgol i ddarparu bysiau nos i fyfyrwyr yn ystod Wythnos y Glas. Rydyn ni’n cydnabod ei bod yn hanfodol ar gyfer diogelwch myfyrwyr ac rydyn ni’n falch bod y Brifysgol yn ariannu bysiau nos am weddill y tymor.
Mae bysiau Cymru Coaches yn gweithredu bob dydd Llun, dydd Mercher, a dydd Gwener rhwng hanner nos a 4am, gan stopio yn Wind St a'n campysau cartref. Mae'r bws yn codi yn yr arhosfan bysiau arferol yn HSV, tu allan i Dy Fulton, yng nghanol y ddinas ar waelod Wind Street yn y gilfan ar gyfer trosglwyddiadau o Singleton, a gyferbyn â’r gilfan ar gyfer trosglwyddiadau o'r Bae.
|