Safe Night Out

2021, the year Swansea Freshers made the ultimate comeback. After taking a temporary break for Covid in 2020, Freshers 2021 was the return everyone expected and more.

Your Students Union provided over 65 events for 4000 new students with 2 years’ worth of dancing to catch up on.

The SU hosted club nights, relaxed meetups, and online events to make sure that everyone had plenty of exciting and memorable events to get stuck in with, even if they didn’t feel comfortable being in a crowd just yet!

Throughout Freshers week our teams worked to ensure that’s Fresher’s Fortnight was a safe and positive experience for all involved.

The Events team along with our elected Full Time Officers worked together to create our ‘Safe Night Out Scheme’. This scheme worked with our societies and sports teams to provide a presence around our clubs throughout the night: providing directions, support, and ensuring our students got home safely.

Our volunteers and full-time staff members worked closely with the Police and St Johns Ambulance to ensure our students felt safe while enjoying making new friends and memories that will last a lifetime.

The Students Union also provided shuttle busses throughout the night to ensure everyone had a safe and reliable way of getting back to our campuses after their night out.

The project was a huge success, with our students frequently using our services and our volunteers getting stuck-in when needed. If you saw any of our volunteers in their blue high-vis jackets, let us know!

2021, y flwyddyn y daeth Wythnos Glas Abertawe yn ôl yn well nag erioed. Ar ôl cymryd egwyl fer diolch i Covid yn 2020, Wythnos y Glas 2021 oedd y dychweliad roedd pawb yn disgwyl a mwy.

Darparodd Undeb y Myfyrwyr dros 65 o ddigwyddiadau ar gyfer 4,000 o fyfyrwyr newydd gyda 2 flynedd o ddawnsio i ddal i fyny.

Cynhaliodd UM nosweithiau clwb, cyfarfodydd hamddenol, a digwyddiadau ar-lein i sicrhau bod gan bawb ddigon o ddigwyddiadau cyffrous a chofiadwy i'w mwynhau, hyd yn oed os nad oeddent yn teimlo'n gyffyrddus bod mewn torf eto!

Trwy gydol Wythnos y Glas, gweithiodd ein timau i sicrhau ei fod yn brofiad diogel a chadarnhaol i bawb a gymerodd ran.

Gweithiodd y tîm Digwyddiadau gyda’n Swyddogion Llawn-amser etholedig i greu ein ‘Cynllun Noson Allan Diogel’. Gweithiodd y cynllun hwn gyda'n cymdeithasau a'n timau chwaraeon i ddarparu presenoldeb o amgylch ein clybiau trwy gydol y nos, gan ddarparu cyfarwyddiadau, cefnogaeth, a sicrhau bod ein myfyrwyr yn cyrraedd adref yn ddiogel.

Gweithiodd ein gwirfoddolwyr ac aelodau staff llawn-amser gyda'r Heddlu ac Ambiwlans St Johns i sicrhau bod ein myfyrwyr yn teimlo'n ddiogel wrth wneud ffrindiau ac atgofion newydd a fydd yn para am oes.

Hefyd, darparodd Undeb y Myfyrwyr fysiau trwy gydol y nos i sicrhau bod gan bawb ffordd ddiogel a dibynadwy o fynd yn ôl i'n campysau ar ôl eu noson.

Roedd y prosiect yn llwyddiant ysgubol, gyda'n myfyrwyr yn aml yn defnyddio ein gwasanaethau a gyda’n gwirfoddolwyr yn cymryd rhan yn ôl yr angen. Os gwelsoch chi unrhyw un o'n gwirfoddolwyr yn eu siacedi glas llachar, rhowch wybod i ni!

 
Swansea University Students' Union