Etholiadau (Beth sydd nesa’!)
Nawr bod enwebiadau ar gau, rydyn ni'n siwr dy fod ti’n pendroni beth sy'n digwydd nesaf?
Yn dilyn y broses Enwebiadau, mae'r ymgeiswyr sy'n ymgeisio am y rolau Swyddogion Llawn-amser a Swyddogion Rhan-amser wedi cael eu briffio, eu paratoi ac yn barod ar gyfer ein digwyddiad “Hystings” sydd ar y gweill.
Hystings yw’r amser perffaith i ofyn unrhyw gwestiynau llosg i’r ymgeiswyr – boed yn ymwneud â phwyntiau ar eu maniffestos, neu pa gynlluniau sydd ganddynt ar gyfer y rôl, dyma dy gyfle i ofyn!
Ymuna â ni yn ein digwyddiad Hystings Etholiadau 2022 ar 2il a 3ydd Mawrth. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma, yn ein digwyddiad Facebook.
|