Be Mighty Recycle This Christmas

Keep up the MIGHTY recycling effort this Christmas to help get Wales to number one

Keep up the MIGHTY recycling effort this Christmas to help get Wales to number one

As Wales’ recycling rate reaches an all-time high, we’re calling on our students to keep up their ‘mighty’ efforts when it comes to recycling this Christmas. 

With 94% of us recycling regularly*, Wales is a nation of Mighty Recyclers. We’re the world’s third best recycling nation, and we’re backing Wales Recycles’ Mighty Mission to get to number one.

The latest data reveals we’re one step closer to reaching the top spot with Wales’ overall recycling rate increasing to 65.4%**. This means we’re currently recycling just over 65% of our overall waste, exceeding Welsh Government’s ‘Beyond Recycling’ strategy target of 64% for this year.

A survey compiled earlier this year revealed that over 8 in 10 Welsh citizens now see recycling as the 'right' thing to do, with 7 in 10 recycling to do their bit for the environment***. More of us than ever see recycling as part of our day-to-day routine. Interestingly there has also been a big jump in the number of us citing environmental concerns as our key motivator to recycle. This is fantastic, but with almost half of us still not recycling everything we can, there is more we can do to ensure that our recyclable items are put out with our recycling kerbside collections every week.

If we’re to help Wales get from third in the world to first, and continue protecting our precious resources, we all need to ramp up our efforts this festive period.

Christmas is traditionally the time of year we create the most waste at home. From all the extra food we buy to the mountain of packaging from Christmas gift purchases, it’s a great opportunity to make sure we’re recycling everything we possibly can.

That’s why we’re supporting Wales Recycles’ Be Mighty. Recycle. campaign, funded by Welsh Government, to encourage everyone in Wales to be Mighty Recyclers this Christmas.

Katie Phillips, SU President explains:

“Welsh citizens are showing they’re MIGHTY when it comes to recycling and we should all be proud of our efforts, but there is still more we can do. We’re calling on our students to keep up the good work over Christmas to help get Wales to No. 1, especially as this time of year when we consume and purchase a lot more than usual”.

“We know people in Wales care about protecting our beautiful country and recycling plays an essential role in tackling climate change. It’s a simple action that everyone can do to help make a real difference”.

Follow these top tips to be a Mighty Recycler this Christmas:

  • Eat, recycle, be merry. Every Council in Wales provides a weekly food waste recycling collection service. Please use it. You can recycle turkey bones, veg peelings and any leftovers that can’t be safely eaten later! And keep recycling other food waste over the Christmas period too, such as tea bags and coffee grounds, eggshells, peelings and cores from fruit, and stale bread.
  • Conquer your cardboard this Christmas. You can recycle all cardboard from your online deliveries. Remove all packaging tape and flatten any boxes or cut them into smaller pieces to save space in your recycling bag, bin or box. Once Christmas is over, recycle all your cards, just remove any badges, bows, foil, glitter and ribbons first, as these bits can’t be recycled.
  • Most plastic items from around the home can be recycled including drinks bottles, cleaning detergent bottles and toiletry bottles. Just empty, rinse and squash them before recycling. Leave on any lids, labels, pouring spouts and spray triggers, as these are removed in the recycling process. You can also recycle the big plastic tubs of chocolate and sweets most of us have around the house at Christmas!
  • Don’t overlook foil this Christmas. Recycle your empty foil mince pies cases and any foil used in your Christmas cooking as long as it’s clean, unstained and free from food, grease and oil. Rinse foil trays and containers before recycling them.
  • Metal food and drinks cans are recyclable. Just give cans a quick rinse first.
  • Wrapping paper is difficult to recycle but there are some great eco alternatives such as brown paper and cloth wrapping that can be spruced up with festive bows and ribbons, and the great thing is, they can be used again next year!

If you’re unsure what you can and can’t recycle, visit Wales Recycles’ Recycling Locator.

To learn more about Wales Recycles’ ‘12 days of Christmas’ recycling facts and tips, visit www.bemightyrecycle.org.uk or join the conversation on social media using #BeMightyRecycle and #BeMightyChristmas.

* WRAP National Recycling Tracker (Wales), March 2021

** Stats Wales

*** Icaro Post-Burst 3 Survey, April 2021

Daliwch ati gyda’r ymdrechion ailgylchu GWYCH y Nadolig hwn i gael Cymru i rif un

Wrth i gyfradd ailgylchu Cymru gyrraedd ei lefelau uchaf erioed, rydyn ni’n galw ar ein myfyrwyr i ddal ati gyda’u hymdrechion ‘gwych’ i ailgylchu’r Nadolig hwn. 

Gyda 94% ohonom yn ailgylchu’n rheolaidd *, mae Cymru’n genedl o Ailgylchwyr Gwych. Ni yw’r drydedd genedl orau yn y byd am ailgylchu, ac rydyn ni’n cefnogi Ymgyrch Gwych Cymru yn Ailgylchu i gyrraedd rhif un.

Mae’r data diweddaraf yn datgelu ein bod un cam yn nes at gyrraedd y brig, gan fod cyfradd ailgylchu Cymru wedi codi i 65.4%**. Mae hyn yn golygu ein bod yn ailgylchu ychydig mwy na 65% o’n gwastraff yn gyfan gwbl, sy’n rhagori ar darged Llywodraeth Cymru yn ‘Mwy nag Ailgylchu’ o 64% ar gyfer eleni.

Datgelodd arolwg a gynhaliwyd yn gynharach eleni bod mwy na 8 ym mhob 10 o ddinasyddion Cymru’n ystyried mai ailgylchu yw’r peth ‘iawn’ i’w wneud erbyn hyn, ac mae 7 allan o 10 yn ailgylchu i chwarae eu rhan dros yr amgylchedd.*** Mae mwy ohonom nag erioed yn gweld ailgylchu fel rhan o’n harferion dyddiol. Mae’n ddiddorol gweld bod cynnydd mawr yn y nifer ohonom sy’n nodi mai pryderon amgylcheddol yw ein prif ysgogiad i ailgylchu. Mae hyn yn wych, ond gyda bron i’n hanner ni ddim yn ailgylchu popeth y gallwn o hyd, mae mwy y gallwn ei wneud i sicrhau bod ein heitemau ailgylchadwy’n cael eu rhoi allan gyda’n casgliadau ailgylchu ar ymyl y ffordd bob wythnos.

Os ydym ni am gael Cymru o’r trydydd safle yn y byd i rif un, a pharhau i ddiogelu ein hadnoddau gwerthfawr, mae angen inni oll roi hybu ein hymdrechion dros gyfnod yr Wyl.

Yn draddodiadol, y Nadolig yw’r adeg o’r flwyddyn pan gaiff mwy o wastraff ei greu gartref. O’r holl fwyd ychwanegol rydyn ni’n ei brynu, i’r mynydd o ddeunydd pacio a ddaw yn sgil prynu anrhegion Nadolig, mae’n gyfle gwych i wneud yn siwr ein bod yn ailgylchu popeth posibl.

Dyna pam rydyn ni’n cefnogi’r ymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha. gan Cymru yn Ailgylchu, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, i annog pawb yng Nghymru i fod yn Ailgylchwyr Gwych y Nadolig hwn.

Dyma Katie Phillips, Llywydd UM yn egluro:

“Mae dinasyddion Cymru’n dangos eu bod yn WYCH am ailgylchu, a dylem oll fod yn falch o’n hymdrechion, ond mae mwy y gallwn ei wneud o hyd. Rydyn ni’n galw ar ein myfyrwyr i ddal ati gyda’r gwaith da dros y Nadolig a helpu i gael Cymru i Rif 1, yn enwedig gan mai ar yr adeg hon o’r flwyddyn rydyn ni’n defnyddio ac yn prynu llawer mwy nag arfer”.

“Gwyddom fod pobl yng Nghymru’n malio am ddiogelu ein gwlad hardd ac mae ailgylchu’n chwarae rhan allweddol mewn taclo newid hinsawdd. Dyma weithred syml y gall pawb ei gwneud i helpu i wneud gwahaniaeth go iawn". 

Dilynwch y cynghorion gwych hyn i fod yn Ailgylchwr Gwych y Nadolig hwn:

  • Bwytewch, ailgylchwch, byddwch lawen. Mae pob Cyngor yng Nghymru’n darparu gwasanaeth casglu ailgylchu gwastraff bwyd wythnosol. Defnyddiwch ef, da chi. Gellir ailgylchu esgyrn twrci, crafion llysiau ac unrhyw fwydydd dros ben na ellir eu bwyta’n ddiogel yn nes ymlaen! A daliwch ati i ailgylchu gwastraff bwyd arall dros gyfnod y Nadolig hefyd, fel bagiau te a gwaddodion coffi, plisg wyau, crafion a chreiddiau ffrwythau a hen fara.
  • Concrwch eich cardbord y Nadolig hwn. Gallwch ailgylchu’r holl gardbord a ddaw yn eich danfoniadau ar-lein. Tynnwch y tâp pacio a fflatio unrhyw focsys, neu gallwch eu torri’n ddarnau llai i arbed lle yn eich bag, bin neu focs ailgylchu. Ar ôl y Nadolig, ailgylchwch eich cardiau i gyd, ond cofiwch dynnu unrhyw fathodynnau, ffoil, llwch llachar neu rubanau’n gyntaf, gan na ellir ailgylchu’r darnau hyn.
  • Gellir ailgylchu’r rhan fwyaf o eitemau plastig a geir o amgylch y cartref, yn cynnwys poteli diodydd, poteli nwyddau glanhau, a photeli nwyddau ymolchi. Gwagiwch, rinsiwch a gwasgwch nhw cyn eu hailgylchu. Gadewch unrhyw gaeadau, labeli, pigau arllwys a chwistrelli arnynt, caiff y rhain eu tynnu yn ystod y broses ailgylchu. Gallwch hefyd ailgylchu’r tybiau plastig mawr o siocled a losin mae’r rhan fwyaf ohonom yn eu mwynhau dros y Nadolig!
  • Peidiwch anghofio ffoil y Nadolig hwn. Ailgylchwch eich casys mins peis ffoil gwag ac unrhyw ffoil a gafodd ei ddefnyddio i goginio dros y Nadolig, cyn belled â’i fod yn lân, heb staen a heb fwyd, saim neu olew arno. Rinsiwch dybiau a chynwysyddion ffoil cyn eu hailgylchu.
  • Gellir ailgylchu caniau bwyd a diod metel. Rhowch rinsiad sydyn i’r caniau’n gyntaf.
  • Mae papur lapio yn anodd ei ailgylchu, ond mae yna ddewisiadau amgen ecogyfeillgar i’w cael, fel papur brown a brethyn lapio, a gellir eu haddurno gyda rhubanau Nadoligaidd, a’r peth da amdanyn nhw yw y gellir eu defnyddio eto'r flwyddyn nesaf!

Os ydych chi’n ansicr o’r hyn y gallwch – ac na allwch – ei ailgylchu, gallwch ddefnyddio Lleolydd Ailgylchu Cymru yn Ailgylchu.

I ddysgu mwy am ffeithiau ac awgrymiadau ’12 dydd y Nadolig’ Cymru yn Ailgylchu, ewch draw i’r wefan byddwychailgylcha.org.uk/ neu ymunwch â’r sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #ByddWychAilgylcha a #ByddWychDrosYDolig.

* WRAP National Recycling Tracker (Cymru), Mawrth 2021

** StatsCymru

*** Arolwg Icaro Post-Burst 3, Ebrill 2021

 
Swansea University Students' Union