Be Sustainable and Get Rewarded! Join Swell!

At Swansea we care about protecting our environment and ensuring the wellbeing of our campus community. That’s why we’re launching a brand-new way for you to contribute to our sustainability efforts and get rewarded for all the good actions you’re taking

Join SWell and help increase sustainability and wellbeing at the university!

At Swansea University we care about protecting our environment and ensuring the wellbeing of our campus community. That’s why we’re launching a brand-new way for you to contribute to our sustainability efforts and get rewarded for all the good actions you’re taking. This will come at an important time for our environment, and coincide with COP26 in Glasgow, the world’s biggest climate conference.

What is SWell?

SWell, standing for ‘Sustainability and Wellbeing’, is a digital programme open to all staff and students at the university. Through the web platform and app you’ll earn ‘Green Points’ for taking small, everyday actions that reduce your carbon footprint and take care of your physical and mental wellbeing. Whilst also supporting our university Sustainability & Climate Emergency Strategy.

Each month we’ll be rewarding the 10 top earning students with a £10 voucher – redeemable through: the SU, Root, M&S, National Book Tokens and cinema vouchers – as well as awarding a £500 charity donation to our top team at the end of the year.

Meet the team!

SWell is launching on 1st November. Find out more at our webinar and live event, with a £5 voucher for Root, Root Zero and the SU given to the first 500 students who sign up (collectable from our stalls on campus, details below).

Our launch webinar will be held at 12pm on 2nd November where you’ll get the chance to learn more about the programme, hear from the sustainability team and ask your own questions, as well as get a demonstration of how it all works. Sign up for the webinar now here.

We’ll also be holding an on campus launch event so that you can talk to the sustainability team in person about SWell. Find the team at:

· Bay campus, Great Hall Foyer – Thursday 4th November, 10:30 – 13:30

· Singleton campus, Fulton House Foyer – Thursday 4th November, 11:30 – 14:30

We look forward to seeing you at an event and telling you more about our exciting new programme!

Swansea University Sustainability Team

Ymunwch â SWell a helpwch i wella cynaliadwyedd a llesiant yn y brifysgol!

Ym Mhrifysgol Abertawe, mae diogelu ein hamgylchedd a sicrhau llesiant cymuned ein campysau yn bwysig iawn inni. Dyna pam rydym yn lansio ffordd newydd sbon y gallwch gyfrannu at ein hymdrechion i fod yn gynaliadwy a chael eich gwobrwyo am yr holl bethau da a wnewch. Daw hyn ar adeg bwysig yn hanes ein hamgylchedd ac mae’n cyd-daro â COP26 yn Glasgow, sef y gynhadledd newid hinsawdd fwyaf drwy’r byd.

Beth yw SWell?

Ystyr SWell yw Sustainability and Wellbeing/Cynaliadwyedd a Llesiant. Rhaglen ddigidol yw hi, ac mae ar agor i holl staff a myfyrwyr y brifysgol. Trwy gyfrwng yr ap a phlatfform y we byddwch yn ennill ‘Pwyntiau Gwyrdd’ am wneud pethau bach beunyddiol i leihau eich ôl troed carbon a gofalu am eich lles corfforol a meddyliol, gan gefnogi Strategaeth Cynaliadwyedd ac Argyfwng Hinsawdd ein Prifysgol yr un pryd.

Bob mis, bydd y 10 myfyriwr sydd wedi ennill y nifer fwyaf o bwyntiau’n cael taleb o £10, a bydd modd defnyddio’r talebau hyn yn Undeb y Myfyrwyr, Root, M&S, National Book Tokens ac fel talebau sinema. Hefyd, ar ddiwedd y flwyddyn bydd y tîm buddugol yn cael rhodd o £500 i’w rhoi i elusen.

Dewch i gyfarfod â’r tîm!

Bydd rhaglen SWell yn cael ei lansio ar 1 Tachwedd. Cewch ragor o wybodaeth yn ein gweminar a’n digwyddiad byw, a bydd talebau o £5 ar gyfer Root, Root Zero ac Undeb y Myfyrwyr yn cael eu rhoi i’r 500 myfyriwr cyntaf a fydd yn cofrestru ar y rhaglen (gellir casglu’r talebau hyn o’n stondinau ar y campws, manylion isod).

Bydd y weminar yn cael ei chynnal am 12pm ar 2 Tachwedd, a chewch gyfle i ddysgu rhagor am y rhaglen, clywed gan y tîm cynaliadwyedd a gofyn eich cwestiynau eich hunain, yn ogystal â chael cyfle i weld sut mae’r cwbl yn gweithio. Cofrestrwch ar gyfer y weminar nawr yma.

Hefyd, byddwn yn cynnal digwyddiad lansio ar gampysau, er mwyn ichi allu trafod SWell â’r tîm cynaliadwyedd yn y cnawd. Gallwch ddod o hyd i’r tîm yn y lleoedd canlynol:

· Campws y Bae, Great Hall Foyer – Dydd Iau 4 Tachwedd, 10:30 – 13:30

· Campws Singleton, Fulton House Foyer – Dydd Iau 4 Tachwedd, 11:30 – 14:30

Edrychwn ymlaen at eich gweld yn un o’r digwyddiadau ac at gael dweud mwy wrthych am ein rhaglen newydd, gyffrous!

Tîm Cynaliadwyedd Prifysgol Abertawe

 
Swansea University Students' Union