Census 2021

All students should be included in the census. Wherever you are, from halls to your old bedroom at home, every student should be included in the census.

All students should be included in the census

Wherever you are, from halls to your old bedroom at home, every student should be included in the census.

You need to complete the census for your university address, even if you’re not currently living there.

Why students should take part in the census

The information you give in the census informs funding decisions on things like university campus bus links and bike lanes, jobs and training.

By taking part for your university address, you can make sure the student community gets the services it needs now and in the future.

Your university address is the address you usually stay at or intended to stay at regularly during term time this academic year. For example, this could be:

  • a student house near your place of learning that you are paying rent for
  • a hall of residence

If you no longer have a university address, you should be included in the census for your permanent home address.

How to take part

If you’re currently in halls or shared student accommodation, you will receive a letter containing your access code through the post. This code will allow you to complete the census online.

If you’re not currently living at your university address and cannot get your access code, you need to request a new access code.

Request an individual access code

An individual access code lets you answer your census questions separately from the people you live with, so they can’t see your answers.

You can choose to receive your new access code by text or post.

No one in your household will be told that you have requested an individual access code

Your individual answers will take priority over any information submitted about you in the household census.

Find out more for your specific situation on this page or get dedicated help for students.

More information here.

Dylai pob myfyriwr gael ei gynnwys yn y cyfrifiad

Ble bynnag ydych chi, o neuadd breswyl i'ch hen ystafell wely gartref, dylai pob myfyriwr gael ei gynnwys yn y cyfrifiad.

Mae angen i chi gwblhau'r cyfrifiad ar gyfer eich cyfeiriad yn y brifysgol, hyd yn oed os nad ydych chi'n byw yno ar hyn o bryd.

Pam y dylai myfyrwyr gymryd rhan yn y cyfrifiad

Bydd y wybodaeth y byddwch chi'n ei rhoi yn y cyfrifiad yn llywio penderfyniadau am ariannu gwasanaethau fel cysylltiadau bysiau ar gampysau prifysgolion a llwybrau beicio, swyddi a hyfforddiant.

Drwy gymryd rhan yn y cyfrifiad ar gyfer eich cyfeiriad yn y brifysgol, gallwch chi wneud yn siwr bod y gymuned myfyrwyr yn cael y gwasanaethau sydd eu hangen arni, nawr ac yn y dyfodol.

Eich cyfeiriad yn y brifysgol yw'r cyfeiriad lle rydych chi'n aros fel arfer neu lle rydych chi'n bwriadu aros yn rheolaidd yn ystod y tymor y flwyddyn academaidd hon. Er enghraifft, gallai'r rhain gynnwys:

  • ty i fyfyrwyr rydych chi'n talu rhent amdano yn agos at eich man dysgu
  • neuadd breswyl

Os nad oes gennych chi gyfeiriad yn y brifysgol mwyach, dylech chi gael eich cynnwys yn y cyfrifiad ar gyfer eich cyfeiriad cartref parhaol.

Sut i gymryd rhan

Os ydych chi mewn neuadd breswyl neu lety myfyrwyr a rennir ar hyn o bryd, byddwch chi'n cael llythyr yn cynnwys eich cod mynediad drwy'r post. Bydd y cod hwn yn eich galluogi chi i gwblhau'r cyfrifiad ar lein.

Os nad ydych chi'n byw yn eich cyfeiriad yn y brifysgol ar hyn o bryd ac os na allwch gael eich cod mynediad, bydd angen i chi ofyn am god mynediad newydd.

Gofyn am god mynediad unigol

Mae cod mynediad unigol yn eich galluogi chi i ateb eich cwestiynau ar gyfer y cyfrifiad ar wahân i'r bobl rydych yn byw gyda nhw, fel na allant weld eich atebion.

Gallwch chi ddewis cael eich cod mynediad newydd drwy neges destun neu drwy'r post.

Ni fydd neb yn eich cartref yn cael gwybod eich bod chi wedi gofyn am god mynediad unigol

Bydd eich atebion unigol yn cael blaenoriaeth dros unrhyw wybodaeth a gaiff ei chyflwyno amdanoch chi ar ffurflen y cartref.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am eich sefyllfa benodol ar y dudalen hon neu gallwch gael help i fyfyrwyr yn benodol.

Mwy o wybodaeth yma.

 
Swansea University Students' Union