How to Survive Your Freshers Year at Swansea Uni

It's everyones favourite 'F' Word..."Freshers". If you're a soon to be Swansea Uni Fresher and are looking for some advice on how to make the most out of your first year at Uni, then you're in luck. We've put together some of our best advice to ensure you stay ahead of the game at Uni.

How to survive your “Fresher” year at Swansea University.  

Congratulations! You did it! You got your place at Swansea and you're preparing to make the big move to start your university journey. Feeling nervous? Not to worry, your Students’ Union will be here with you the whole time.  

Some people say your first year of Uni is the best year of your life, but that doesn’t always mean it will always be easy. We’ve put together some tips and suggestions below to make your freshers year a breeze. 

 

Manage your time well. 

We aren’t going to sugar coat it – managing your time at university can often be more challenging than the workload itself. However, once you find that perfect routine, the student life can get a whole lot easier.  

Depending on your course, you may find yourself having a few hours spare between lectures. We recommend using this time to get some of those pesky, necessary chores done. Perhaps it could be doing some extra reading for a seminar, getting that weekly food shop ticked off the to-do-list, squeezing in a gym session, or even just chilling out and vibing to some music in your bedroom (downtime is important for reducing stress after all). It’s important to balance your work, study, and social life well to be successful at university.  

 

Join a Society or a Sports Club. 

We are very blessed in Swansea to have such a wide variety of Societies and Sports Clubs available. We guarantee there is something for everyone here at Swansea Uni SU – Whether you’re into competitive sport, legal debates, politics, rugby (you are in Wales now after all), there's bound to be something you like. 

Joining a Society or a Club is also an amazing way to make friends! And try out some new hobbies. Want to see the full range of clubs in Swansea? Click here.

 

Try your best to keep to a budget. 

Listen. We’ve all been there, you say you're going to be careful with spending your money this month and before you know it, you’re throwing away your weekly food shop allowance on some drinks at a Sin City Hustle, or a GWA Wednesday. We get it, it happens to the best of us, really!  

HOWEVER, we really do recommend trying your absolute best to stick to a budget plan that works for you! All those little transactions do add up – implementing good habits like preparing a packed lunch for a library study session could save you a big chunk of money in the long run.  

If possible, it might also be worth checking what part-time jobs are available (if your course and extra-curricular activities aren’t too demanding that is). Your Students’ Union offers job vacancies on Campus, with lots of great perks! You can check them out on our jobs portal.  

 

Take care of your mental health. 

We really do recommend placing just as much emphasis on taking care of your mental health as physical.  

Take the time to familiarise yourself with all the resources and services available to you – here at the Students’ Union we offer a free Advice & Support service;the team are equipped and fully trained to assist all our students. You can reach our Advice & Support team via email on advice@swansea-union.co.uk, or pop into their office located on the ground floor of Fulton House.  

The University also has a well-being system in place that can offer support with stress, financial issues, and even provide free counselling. 

If you begin to suffer with your mental health at university, we urge you to reach out and talk to someone. Whether it be a family member, flat mate, close friend, personal tutor, GP, or even getting in touch with the services mentioned above – talking can result in a sense of relief and be the kick-starter for getting better. 

 

Get to know your new home! 

We feel this one is a no brainer - You’ve packed up your things, made the move to Swansea, seen the University, now what? Now it’s time to see what the rest of Swansea has to offer. After all, you are going to be living here for the next 3 to 4 years of your life.  

Swansea is home to some amazing, well-known locations, like the Gower peninsula. With incredible beaches, breath-taking views and amazing coastal walks, we highly recommend taking a trip to see what all the fuss is about.  

Fancy going a bit further field? Lucky for you, we occasionally hold day trips to some more of South Wales’ beauty spots. You can find them on our 'What's On page.'

 

Sut i oroesi dy flwyddyn gyntaf yn y Brifysgol.  

Llongyfarchiadau! Rwyt ti wedi gwneud hi! Rwyt ti wedi cael lle yn Abertawe ac rwyt ti’n paratoi i wneud y cam mawr i ddechrau dy daith yn y Brifysgol. Teimlo'n nerfus? Paid â phoeni, bydd Undeb Myfyrwyr yma gyda ti yr holl amser.  

Mae rhai pobl yn dweud mai dy flwyddyn gyntaf yn y Brifysgol yw blwyddyn orau dy fywyd, ond nid yw hynny bob amser yn golygu y bydd yn hawdd. Rydyn ni wedi llunio awgrymiadau isod i wneud dy flwyddyn gyntaf yn hawdd.  

 

Rheola dy amser yn dda. 

Dydyn ni ddim yn mynd i ddweud celwydd – yn aml gall rheoli dy amser yn y Brifysgol fod yn fwy heriol na’r llwyth gwaith ei hun. Ond, ar ôl i ti ddod o hyd i'r drefn berffaith, gall bywyd fel myfyriwr fod yn llawer haws.  

Yn dibynnu ar dy gwrs, efallai y bydd gennyt ti ychydig o oriau rhydd rhwng darlithoedd. Rydyn ni’n argymell defnyddio'r amser hwn i wneud rhai o'r tasgau diflas, angenrheidiol. Gallai hyn fod gwneud rhywfaint o ddarllen ychwanegol ar gyfer seminar, ticio’r siop fwyd wythnosol oddi ar y rhestr o bethau i’w gwneud, gwneud sesiwn yn y gampfa, neu hyd yn oed ymlacio gyda cherddoriaeth yn dy ystafell wely (mae amser segur yn bwysig i lleihau straen wedi'r cyfan). Mae’n bwysig cydbwyso dy waith, dy astudiaeth a dy fywyd cymdeithasol yn dda i fod yn llwyddiannus yn y Brifysgol.  

 

Ymuna â Chymdeithas neu Glwb Chwaraeon. 

Rydyn ni’n yn ffodus iawn yn Abertawe i gael amrywiaeth mor eang o Gymdeithasau a Chlybiau Chwaraeon ar gael. Rydyn ni’n gwarantu bod rhywbeth at ddant pawb yma yn UM Prifysgol Abertawe – P’un a wyt ti’n hoff o chwaraeon cystadleuol, dadleuon cyfreithiol, gwleidyddiaeth, rygbi (rwyt ti yng Nghymru nawr wedi’r cyfan), mae’n siwr y bydd rhywbeth rwyt ti’n ei hoffi.  

Mae ymuno â Chymdeithas neu Glwb hefyd yn ffordd wych o wneud ffrindiau! A rho gynnig ar rai hobïau newydd. Eisiau gweld yr ystod lawn o glybiau yn Abertawe? Clicia yma. 

 

Gwna dy orau i gadw at gyllideb. 

Gwrand. Rydyn ni i gyd wedi bod yno, rwyt ti'n dweud dy fod yn mynd i fod yn ofalus wrth wario dy arian y mis hwn a chyn i ti wybod, rwyt ti'n taflu dy lwfans siop fwyd wythnosol ar ddiodydd mewn Sin City Hustle, neu GWA Dydd Mercher. Rydyn ni'n deall, mae'n digwydd i'r gorau ohonom, a dweud y gwir!  

OND, rydyn ni’n argymell gwneud dy orau i gadw at gynllun cyllideb sy'n gweithio i ti! Mae'r holl drafodion bach hynny yn adio i fyny - Gallai gweithredu arferion da fel paratoi pecyn bwyd ar gyfer sesiwn astudio yn y llyfrgell arbed llawer iawn o arian yn y pen draw.  

Os yn bosibl, efallai y byddai’n werth gwirio pa swyddi rhan-amser sydd ar gael (Os nad yw dy gwrs a dy weithgareddau allgyrsiol yn rhy feichus). Mae Undeb y Myfyrwyr yn cynnig swyddi gwag ar y campws, gyda llawer o fanteision gwych! Gallet ti eu gweld nhw yma. 

 

Gofala am dy iechyd meddwl. 

Rydyn ni wir yn argymell rhoi cymaint o bwyslais ar ofalu am dy iechyd meddwl â dy iechyd corfforol. 

Cymera’r amser i ymgyfarwyddo â’r holl adnoddau a gwasanaethau sydd ar gael i ti – Yma yn Undeb y Myfyrwyr rydyn ni’n cynnig gwasanaeth Cyngor a Chymorth am ddim, mae’r tîm wedi’u cyfarparu a’u hyfforddi’n llawn i gynorthwyo ein holl fyfyrwyr. Gallet ti gysylltu â’n tîm Cyngor a Chymorth drwy e-bost ar advice@swansea-union.co.uk, neu galwa heibio’r swyddfa sydd wedi’i lleoli ar lawr gwaelod Ty Fulton.  

Me hefyd gan y Brifysgol system les yn ei lle sy’n gallu cynnig cymorth gyda straen, materion ariannol, a hys yn oed darparu cwnsela rhad ac am ddim. 

Os wyt ti’n dechrau dioddef gyda dy iechyd meddwl yn y Brifysgol, rydyn ni’n dy annog i estyn allan a siarad â rhywun. Boed yn aelod o’r teulu, yn gyd-letywr, yn ffrind agos, yn diwtor personol, yn feddyg teulu, neu hyd yn oed yn cysylltu â’r gwasanaethau uchod – gall siarad arwain at ymdeimlad o ryddhad a bod yn hwb i wella.  

 

Dere i adnabod dy gartref newydd!  

Rydyn ni'n teimlo bod hwn yn un amlwg – rwyt ti wedi pacio dy bethau, symud i Abertawe, gweld y Brifysgol, beth nawr? Nawr mae'n bryd gweld beth sydd gan weddill Abertawe i'w gynnig. Wedi'r cyfan, rwyt ti'n mynd i fod yn byw yma am y 3 i 4 blynedd nesaf o dy fywyd. 

Mae Abertawe yn gartref i rai lleoliadau rhyfeddol, adnabyddus, fel penrhyn Gwyr. Gyda thraethau anhygoel, golygfeydd godidog a llwybrau cerdded arfordirol anhygoel, rydyn ni’n argymell yn fawr mynd ar daith i weld beth yw'r holl sylw amdano.  

Awydd mynd ychydig ymhellach? Yn ffodus i ti, rydyn ni’n achlysurol yn cynnal teithiau dydd i rai o fannau mwyaf prydferth De Cymru. Gallet ti ddod o hyd iddynt ar ein tudalen Digwyddiadau. 

 
Swansea University Students' Union