Welsh Varsity Returns After Two-Year Hiatus

Following a two-year break due to the Covid-19 pandemic, the date for the 2022 Welsh Varsity between Cardiff and Swansea Universities has been confirmed.

Welsh Varsity returns after two-year hiatus

Following a two-year break due to the Covid-19 pandemic, the date for the 2022 Welsh Varsity between Cardiff and Swansea Universities has been confirmed.

Swansea will host this year’s week-long festival of sport, with most fixtures and the showpiece rugby matches taking place on Wednesday 27 April.

The Welsh Varsity initially began as a rugby match between Cardiff and Swansea Universities at the Cardiff Arms Park in 1997 but has since grown year-on-year and is now the largest student multi-sport event in the UK.

Throughout the week-long festival of sport, students will compete in more than 30 different sports for the coveted Welsh Varsity Shield, including: Ultimate Frisbee; swimming; golf; fencing; squash; boxing; basketball and hockey.

Cardiff University currently retain both the Welsh Varsity Shield and Cup, following their victories in 2019.

Georgia Smith, Sports Officer at Swansea University Students’ Union, said: “I’m so excited to see Welsh Varsity returning, and if that wasn’t good enough, it’s in Swansea! After what’s been a tough couple of years for students, I know that everyone at Swansea University will be thrilled to see Sketty Lane bleed green once again.

“It will be my pleasure to welcome current students and alumni back to see the biggest varsity in Wales to celebrate sport and friendly rivalry.

“My message to all Swansea students is get ready to sing and chant for Swansea and show Cardiff what the Green and White Army's made of!”

Megan Somerville, VP Sports and Athletic Union President at Cardiff University Students’ Union, said: “I am thrilled to be involved in the long-awaited return of Welsh Varsity. Preparations are already underway for this amazing event that enables our clubs to showcase their talent on and off the pitch.

“This huge event is a centrepiece of the student calendar and we can’t wait to welcome back fans both new and old to support Team Cardiff. Make sure you’re a part of the biggest student sporting event in the UK this April and watch Cardiff bring the cup and shield home.”

Ticket details and the full event schedule will be announced in due course.

Varsity Cymru'n dychwelyd ar ôl bwlch o ddwy flynedd

Ar ôl bwlch o ddwy flynedd o ganlyniad i bandemig Covid-19, mae'r dyddiad ar gyfer Varsity Cymru 2022 rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe wedi cael ei gadarnhau.

Bydd Abertawe'n cynnal yr wyl chwaraeon sy'n para am wythnos eleni. Cynhelir y rhan fwyaf o'r cystadlaethau a'r gemau rygbi proffil uchel ddydd Mercher 27 Ebrill.

Dechreuodd Varsity Cymru gyda gêm rygbi rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe ar Barc yr Arfau yng Nghaerdydd ym 1997, ond mae wedi tyfu bob blwyddyn ers hynny a dyma'r digwyddiad aml-gamp mwyaf i fyfyrwyr yn y DU bellach.

Drwy gydol yr wyl chwaraeon wythnos o hyd, bydd myfyrwyr yn cystadlu mewn mwy na 30 o gampau gwahanol ar gyfer gwobr uchel ei bri Tarian Varsity Cymru. Mae'r campau'n cynnwys: ffrisbi eithafol; nofio; golff; cleddyfaeth; sboncen; paffio; pêl-fasged; a hoci.

Ar hyn o bryd, Prifysgol Caerdydd yw deiliad Tarian a Chwpan Varsity Cymru, o ganlyniad i'w buddugoliaethau yn 2019.

Meddai Georgia Smith, Swyddog Chwaraeon Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe: “Mae dychweliad Varsity Cymru'n destun cyffro mawr i mi, yn enwedig gan y bydd Abertawe'n ei gynnal! Ar ôl cwpl o flynyddoedd anodd i fyfyrwyr, rwy'n gwybod y bydd pawb ym Mhrifysgol Abertawe wrth eu boddau pan fydd Lôn Sgeti'n troi'n wyrdd unwaith eto.

“Bydd yn bleser i mi groesawu myfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr yn ôl i weld y digwyddiad prifysgolion mwyaf yng Nghymru i ddathlu chwaraeon a chystadlu cyfeillgar.

“Rwy'n gofyn i holl fyfyrwyr Abertawe fod yn barod i ganu a bloeddio dros Abertawe a dangos i Gaerdydd gwerth y Fyddin Werdd a Gwyn!”

Meddai Megan Somerville, Is-lywydd Chwaraeon a Llywydd Undeb Athletaidd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd: “Rwy'n falch o gael cymryd rhan yn Varsity Cymru wrth iddo ddychwelyd ar ôl hir ymaros. Mae'r paratoadau eisoes wedi dechrau ar gyfer y digwyddiad gwych hwn sy'n galluogi ein clybiau i ddangos eu doniau ar y maes chwarae ac oddi arno.

“Mae'r digwyddiad anferth hwn yn un o uchafbwyntiau calendr y myfyrwyr ac rydyn ni'n edrych ymlaen yn eiddgar at groesawu hen gefnogwyr a newydd-ddyfodiaid i gefnogi Tîm Caerdydd. Gwnewch yn siwr eich bod chi'n cymryd rhan yn y digwyddiad chwaraeon mwyaf i fyfyrwyr yn y DU ym mis Ebrill ac yn gwylio Caerdydd yn ennill y cwpan a'r darian eto.”

Cyhoeddir manylion tocynnau ac amserlen lawn y digwyddiad maes o law.

 
Swansea University Students' Union